Oherwydd y bygythiad parhaus y bydd haint coronafeirws (Covid-19) yn ymledu ac yn sgil y ffaith bod y sawl sy’n mynychu Canolfannau Dydd y Cyngor yn fregus, rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau’r gwasanaethau dydd am y tro.

Bu’r penderfyniad i gau’r gwasanaeth dydd yng Nghanolfannau Dydd y Cyngor yn un anodd ond yn un y bu’n rhaid ei wneud. Ein prif flaenoriaeth yw iechyd a diogelwch defnyddwyr ein gwasanaeth ac iechyd a diogelwch ein staff ac nid ydym am eu rhoi mewn perygl diangen. Rydym yn dymuno sicrhau defnyddwyr y gwasanaeth a’u teuluoedd y bydd y gwasanaeth arferol yn ailgychwyn cyn gynted ag y bydd modd gwneud hynny.

Os nododd ei asesiad bod anghenion unigolyn yn rhai tyngedfennol, yna bydd y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw yn parhau i dderbyn y cymorth priodol i’w alluogi i ymdopi gartref yn ystod y cyfnod hwn. Bydd aelod o staff yn cysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth i drafod hyn ymhellach.  

Os oes unrhyw un o ddefnyddwyr y gwasanaeth neu aelod o’u teulu yn dymuno trafod hyn ymhellach, mae croeso iddynt gysylltu â’r Cyngor drwy ffonio 01545 570881.

Bydd y gwasanaeth dydd yn cau ddiwedd y dydd, ddydd Gwener 13 Mawrth 2020, ac yn parhau ar gau hyd nes y bernir ei bod yn ddiogel ei ailagor.  

13/03/2020