Bydd hysbysiadau statudol yn cael eu cyhoeddi ar gau Ysgol Gynradd Cilcennin, Ysgol Gynradd Beulah ac Ysgol Gynradd Trewen ar ôl penderfyniad Cabinet. Bydd yr hysbysiadau mewn lle am 28 diwrnod i roi’r cyfle i bobl wrthwynebu’r cynigion i gau’r ysgolion. Nid yw’r penderfyniad Cabinet yma yn benderfyniad terfynol i gau’r ysgolion.

Cytunodd y Cabinet i gyhoeddi’r hysbysiadau statudol mewn cyfarfod ar 18 Rhagfyr 2018. Fe wnaethant ystyried cyflwyniad ar arian gyllidebau ysgolion a niferoedd disgyblion cyn gwneud y penderfyniad. Fe wnaeth y Cabinet hefyd glywed mewnbwn o aelodau lleol cyn penderfynu.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Nid hyn yw’r penderfyniad olaf ar y cynigion i gau’r ysgolion yng Nghilcennin, Beulah a Threwen. Mae’r hysbysiad yn rhoi’r cyfle i bobl wrthwynebu’r cynigion os ydynt yn dewis gwneud hynny.”

“Mae angen i ni sicrhau bod ein system addysg yn gynaliadwy ac yn edrych i’r dyfodol. Mae’r cynigion i gau’r ysgolion yn seiliedig ar leihad mewn niferoedd disgyblion a chost fesul disgybl sydd yn llawer uwch na’r cyfartaledd dros y sir.”

Ar ôl y cyfnod hysbysiad, bydd y Cabinet yn ystyried unrhyw wrthwynebiad y mae’r cyngor yn derbyn. Ar ôl hynny, bydd y Cabinet yn gallu penderfynu peidio â chau’r ysgolion, neu i barhau â’r broses i gau’r ysgolion. Os mae’r Cabinet yn penderfynu parhau â’r cynigion, bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Cyngor Llawn ym mis Mehefin 2019.

19/12/2018