Mae Chwefror yn fis i ddathlu hanes LHDTQ+ ac mae Amgueddfa Ceredigion wedi bod yn cydweithio gyda Jane Hoy o’r gymdeithas LHDTQ+, Aberration, i ddatgelu a recordio straeon cudd a rhyfeddol am y gymuned yn Aberystwyth.

Mae’r straeon yn rhan o brosiect ‘Digwyddodd yn Aber’, Amgueddfa Ceredigion, sy’n rhoi cyfle i bobl wrando ar straen cudd sydd wedi lliwio hanes a threftadaeth Aberystwyth.

Mae’r prosiect hwn yn bosibl diolch i nawdd gan gronfa ‘Treftadaeth – 15 Munud’, partneriaeth rhwng Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Meddai Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion, “Am llawer rhy hir, mae’r gymuned LHDTQ+ wedi cael ei gadael ar yr ymylon, neu hyd yn oed wedi’i cuddio o’n hanes. Mae Amgueddfa Ceredigion yn awyddus i rannu’r straeon cuddiedig, i ddathlu’r amrywiaeth a’r cyfoeth sy’n perthyn i’r treftadaeth LHDTQ+, gan wneud hynny gyda balchder”.

Mae’r straeon LHDTQ+ sydd wedi’i ymchwilio a’i recordio gan Jane Hoy, yn cynnwys cymeriadau hanesyddol a chymeriadau cyfoes o’r dref, yn cynnwys academyddion, beirdd, morwyr, dawnswyr ac ysbïwr!

Rydym yn falch i gydweithio’n agos gydag Amgueddfa Ceredigion i gynnig yr amrywiaeth lliwgar o straeon a digwyddiadau lleol o’r gymuned LHDTQ+” Jane Hoy, Aberration.

Does dim dwywaith bod Aberystwyth wedi cyfrannu’n helaeth i ddatblygiad y gymuned LHDTQ+ yng ngorllewin Cymru. Daw hyn yn amlwg mewn recordiad gyda Sarah a Rosie, y ddwy fenyw leol sefydlodd ‘Wrecked’, clwb nos yn y dref ar gyfer menywod yn unig, Roedd Wrecked yn le llawn hwyl ac yn hafan diogel ar gyfer lesbiaid, roeddynt yn heidio yma o bob cwr o’r sir”.

Bydd staff a gwirfoddolwyr Amgueddfa Ceredigion yn parhau i recordio a dogfennu straeon am y gymuned LHDTQ+ yn ogystal a straeon am leoliadau penodol yn y dref, nes Ebrill. O fis Mai ymlaen bydd cynnwys ‘Digwyddodd yn Aber’ ar gael i’w fwynhau ar ffurf podlediad ar wefan yr Amgueddfa, a hefyd ar ffurf taith gerdded ddigidol fydd yn caniatáu i bobl wrando ar y straeon wrth grwydro o amgylch y lleoliadau yn y dref.

Meddai’r Cynghorydd Catherine Hughes, "Mae'n wych bod Amgueddfa Ceredigion yn rhoi cyfle inni ddathlu a mwynhau hanes a chyfraniad pwysig y gymuned LDHTQ+ i Aberystwyth. Mae'r prosiect hwn yn un pwysig iawn i gofnodi ein treftadaeth lleol, edrychwn ymlaen i wrando ar yr holl hanesion".

Os na fedrwch chi aros nes yr haf, bydd cyfle i glywed rhywfaint o straeon clwb nos ‘Wrecked’ yn y digwyddiad rhithiol ‘Aberration – Between the Lines’, ar Nos Wener 26 Chwefror o 7yh.

Am wybodaeth bellach neu i rannu eich straeon difyr chi am Aberystwyth, cysylltwch â Sarah Morton, Swyddog Cynaladwyedd yr Amgueddfa ar Sarah.Morton@ceredigion.gov.uk.

15/02/2021