Dangosodd adolygiad blynyddol olaf Cynllun Rheoli Carbon y Cyngor bod allyriadau carbon y Cyngor wedi lleihau 21.15% yn y pum mlynedd diwethaf.

Rhagorwyd targed o Gynllun Rheoli Carbon Cyngor Sir Ceredigion i dorri allyriadau carbon y Cyngor o 15% yn 2017. Mae targed ychwanegol o 18% hefyd wedi ei ragori yn gyfforddus ers hynny. Cyhoeddwyd y lleihad yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor ar 29 Mai 2018.

Dywedodd Hyrwyddwr Cynaliadwyedd y Cyngor, y Cynghorydd Alun Williams, “Mae’r Cyngor wedi buddsoddi £2.1m i fentrau ynni adnewyddadwy ac arbed ynni dros bum mlynedd sydd wedi golygu arbediad o dros £1.9m. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor wedi arbed bron yr holl gost o fuddsoddi dros bum mlynedd yn y flwyddyn ddiwethaf. Cyfrifir bod cyfanswm yr arbedion cronnus ar gyfer y cyfnod rhwng 2012/13 a 2016/17 yn oddeutu £4.2m yn erbyn y senario busnes fel arfer.

O ystyried hyn, ac arbed 750 tunnell o garbon, mae’n amlwg bod y gweithredoedd rydym wedi gwneud nid yn unig yn darparu buddion amgylcheddol pwysig, ond hefyd buddion ariannol arwyddocaol, sydd wedyn yn gallu cael eu defnyddio i gynnal gwasanaethau.”

Bydd gwaith nawr yn dechrau i greu Cynllun Rheoli Carbon newydd er mwyn sicrhau arbedion ariannol a lleihad o ddefnydd carbon pellach. Mae newidiadau a wneir o dan y Cynllun Rheoli Carbon yn cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor i hyrwyddo cydnerthedd amgylcheddol a chymunedol.

29/05/2018