Ddydd Llun, 4 Hydref, gosododd Maethu Cymru gyfres o ddrysau y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd er mwyn tynnu sylw at amrywiaeth y gofalwyr maeth mewn awdurdodau lleol sydd wedi agor drysau eu cartrefi i blant maeth yng Nghymru.

Mae Maethu Cymru yn gweithio tuag at gynyddu nifer y gofalwyr maeth mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn helpu i gadw plant yn eu hardal leol, pan mai hynny yw’r peth iawn ar eu cyfer, sy’n cyfrannu at yr effaith genedlaethol ar ddyfodol pobl ifanc.

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Porth Gofal, Porth Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant. Dywedodd: “Nod Maethu Cymru yw annog y rhai sy’n ystyried maethu i wneud hynny yng Ngheredigion er mwyn i’r perthnasoedd pwysig hynny, sy’n helpu plant i ffynnu, allu parhau.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: "Mae gofalwyr maeth yng Nghymru wedi dweud wrthyf droeon am ba mor werthfawr y gall y profiad o ofalu am blentyn fod. Rwy'n annog unrhyw un sy'n gallu agor eu drysau i wneud hynny fel bod y plant hynny sydd angen ein help yn gallu cael plentyndod hapusach a thyfu i fod y bobl maen nhw’n dymuno cael bod."

Ddiwedd mis Mawrth 2020, dangosodd ystadegau Llywodraeth Cymru fod 84% o blant sy'n byw gyda theuluoedd maeth yn gallu parhau i fyw yn eu hardal eu hunain, gan eu galluogi i barhau i fyw mewn cymunedau sy’n gyfarwydd iddyn nhw.

Ewch i ceredigion.maethucymru.llyw.cymru i gael gwybodaeth ynglŷn â maethu yng Ngheredigion.

13/10/2021