Gall preswylwyr yng Ngheredigion nawr gael mynediad at ddangosfwrdd personol llawn gwybodaeth yn dilyn lansiad Fy Nghyfrif.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio gwasanaeth cyfrif cwsmeriaid ar-lein newydd sbon ar gyfer preswylwyr gyda'r nod o sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn gyflym ac yn syml.
Gall preswylwyr ddefnyddio Fy Nghyfrif ar eu ffôn symudol, llechen ddigidol neu gyfrifiadur i wneud ymholiadau a dilyn amrywiaeth o wasanaethau'r Cyngor.
Drwy gofrestru am Fy Nghyfrif, gallwch wneud y canlynol:
- gwneud ymholiadau a gweld sut maen nhw’n datblygu
- cofnodi unrhyw broblemau o ran priffyrdd fel tyllau yn y ffordd, canghennau sy’n tyfu drosodd neu oleuadau stryd
- cofnodi unrhyw broblemau o ran hawliau tramwy cyhoeddus, er enghraifft camfa sydd wedi’i torri neu arwyddion sydd ar goll
- gweld pryd bydd eich casgliad gwastraff nesaf
- lawrlwytho copi o galendr casglu gwastraff ar gyfer 2024
- gweld pwy yw eich Cynghorydd lleol
- cofrestru i dderbyn cylchlythyrau ac ymgynghoriadau
Bydd llawer mwy o wasanaethau yn cael eu hychwanegu yn fuan, felly nawr yw'r amser perffaith i gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif a chadw llygad ar y platfform am nodweddion pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am Wasanaethau Cwsmeriaid: “Mae Fy Nghyfrif wedi'i gynllunio i helpu bobol Ceredigion gael cymorth, gwybodaeth a’r newyddion diweddaraf am eu hardal. Wrth gwrs mi fydd llawer yn ffafrio gwasanaeth wyneb i wyneb neu dros y ffôn, a mi fydd yropsiynau hynny yn dal i fod ar gael.”
Mae cofrestru yn hawdd a dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd. Dilynwch y ddolen hon i gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/fy-nghyfrif/
29/02/2024