Mae Ian, sy'n 35 oed ac yn byw yn ardal Borth, wedi gweithio mewn swyddi tymhorol ers nifer o flynyddoedd, yn bennaf mewn rolau glanhau a gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae gen Ian, sy’n berson brwdfrydig a threfnus iawn, awtistiaeth, ac mae'n deall ei gyflwr yn dda iawn, ond roedd weithiau'n cael trafferth cyfathrebu wrth gwblhau gwaith papur neu drefnu oriau gwaith amrywiol.

Cysylltodd Ian â swyddogion Cyflogaeth dan Gymorth Lleol (CGLl) yn y gobaith o gael cymorth i ddod o hyd i swydd gan ei fod yn ddi-waith. Cyflwynir y cynllun gan y Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yng Nghyngor Sir Ceredigion. Roedd yn bwysig bod Ian yn gallu cael cyflogaeth a gwaith sefydlog yn ei ardal leol.

Yn dilyn cymorth gan y tîm, llwyddodd Ian i sicrhau dwy swydd yn Borth, ac mae'n mwynhau’r swyddi yn fawr. Mae'n gwybod y gall gysylltu gyda’i fentor am gyngor os oes ganddo unrhyw bryderon.

Mae cael mentor wedi rhoi’r hwb, yr hyder a‘r annibyniaeth yr oedd ei angen arno er mwyn llwyddo yn ei swyddi. Gall mentoriaid hwyluso’r broses rhwng cyflogeion a chyflogwyr i sicrhau canlyniadau da i bawb.

Dywedodd Ian: “Mae gwybod bod fy mentor yn fy nghefnogi yn y gwaith wedi rhoi mwy o hyder i mi lwyddo yn fy swyddi, ac mae’r hyder hyn wedi arwain at gynyddu fy hunanwerth a’r gallu i wneud y gorau dros fi fy hun.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Ian yn enghraifft wych o sut y gall cynlluniau fel Cyflogaeth dan Gymorth Lleol fod o fudd i bawb. Mae ei barodrwydd i ddysgu, ynghyd â'i agwedd blaenweithgar, wedi sicrhau dwy swydd iddo yn ei ardal leol. Os gallwch chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod elwa o’r cynllun hwn, yna cysylltwch â ni am sgwrs.”

Darperir cymorth yn lleol gan Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion drwy'r cynllun Cyflogaeth dan Gymorth Lleol. Ariennir y cynllun drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Sir Gâr. Mae’r prosiect yn darparu cymorth i bobl 16 oed a hŷn sydd ag anabledd dysgu, neu awtistiaeth, i’w cefnogi i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

I gael gwybod mwy am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yng Ngheredigion, e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Cymorth Gwaith Ceredigion Work Support ar Facebook a @CymorthGwaithCeredWorkSupport ar Instagram.

05/04/2024