Ar 02 Ebrill 2024, cyflwynodd aelodau Grŵp Ieuenctid Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth fainc lles i Elusen HAHAV yn Aberystwyth. Bydd y fainc yn cael ei osod yn yr ardd ym Mhlas Antaron i gleientiaid, ymwelwyr a staff ei fwynhau.

Elusen sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr yw HAHAV. Mae’n cynnig cymorth di-dâl i bobl ar draws Ceredigion sy’n byw gyda salwch nad oes modd ei wella neu sy’n cyfyngu ar eu bywydau. Canolfan HAHAV ym Mhlas Antaron, Aberystwyth, yw pencadlys newydd HAHAV a Chanolfan Byw’n Iach. Mae Plas Antaron, a fu gynt yn westy, yn cynnig cyfleusterau a gofodau amrywiol i ddatblygu gwasanaethau newydd a chyfleoedd i gleientiaid HAHAV gwrdd.

Mae Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth yn grŵp bach o wyth person ifanc rhwng 18 a 20 oed, dan arweiniad Gwasanaeth Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion. Mae'r grŵp yn cyfarfod bob pythefnos, ac yn trefnu a chynnal amrywiaeth o brosiectau cymunedol, gweithgareddau ymwybyddiaeth a digwyddiadau yn lleol. Bob blwyddyn, mae’r grŵp yn dewis ‘ymgyrch’ i gefnogi a’r llynedd, gwnaethant gais i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) am Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc, a oedd yn eu galluogi i brynu deunyddiau i greu mainc lles. Cafodd y fainc les ei ddylunio, ei chreu a’i haddurno mewn partneriaeth â Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT). Bu’r grŵp yn gweithio gydag adran gwaith coed HCT i greu mainc a fyddai’n addas ar gyfer y gymuned.

Dywedodd Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth: “Fe benderfynon ni wneud cais am grant i’n helpu i greu mainc lles, gan mai ein hymgyrch ddewisol y llynedd oedd ‘iechyd meddwl a lles’. Cawsom gyfle i weithio gyda thiwtoriaid gwaith coed yn HCT i greu’r fainc fel yr oeddem ei eisiau. Fel grŵp, edrychon ni ar wahanol leoliadau ar gyfer y fainc a phenderfynon ni fynd at HAHAV ym Mhlas Antaron ym Mhenparcau. Rydym i gyd yn lleol i Benparcau ac Aberystwyth, ac roeddem yn teimlo y byddai’n braf rhoi’r fainc i elusen leol sy’n helpu pobl yn ein cymuned. Fe wnaethon ni fwynhau’r cyfle i drosglwyddo’r fainc i Grŵp Celf HAHAV.”

Dywedodd Tess Thorp, Cydlynydd Gwirfoddolwyr HAHAV: “Mae’r fainc yn ychwanegiad gwych i’n Gardd Les ac rydym wrth ein bodd ei fod wedi cael ei roi yn anrheg gan Grŵp Ieuenctid y Llysgenhadon Cymunedol. Maen nhw mor feddylgar a thalentog, a bydd y llu o ymwelwyr â Phlas Antaron yn ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

I gael y diweddara’ ar y Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i’w tudalen Facebook drwy chwilio am Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service, @GICEREDYS ar X (Trydar yn flaenorol) ac Instagram.

08/04/2024