Mae mwy na 2,000 o bobl ifanc yng Ngheredigion wedi pleidleisio dros y pynciau maen nhw’n ystyried sydd bwysicaf iddyn nhw.

Mae pleidlais ‘Rhoi dy Farn 2024’ a gydlynir gan Wasanaeth Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion yn rhoi cyfle i bobl ifanc bleidleisio ar bynciau ac sydd wedyn yn llywio blaenoriaethau’r Cyngor Ieuenctid yn ystod 2024.

Pleidleisiodd 2,031 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ym mhleidlais Rhoi dy Farn 2024, a’r pynciau llosg gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau oedd: ‘tai fforddiadwy, gyda ‘iechyd meddwl a lles’ yn ail, ac ‘argyfwng costau byw’ yn drydydd.

Dywedodd Rosa Waby, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Mae ymgyrch 'Rhoi Dy Farn 2024' wedi galluogi pobl ifanc ar draws y Sir i leisio eu barn am faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae'n gyffrous i weld yr ymgysylltiad hwn, ac mae canlyniadau'r ymgyrch wedi uwcholeuo pryderon ein hieuenctid. Mae'n amlwg o'r canlyniadau bod pobl ifanc yn angerddol am liwio eu dyfodol. Mae'r Cyngor Ieuenctid yn barod i wynebu'r pryderon, er mwyn dylanwadu newid ystyrlon yn ein cymunedau.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r pynciau mae pobl ifanc yng Ngheredigion wedi’u codi yn bwysig iawn, sy’n cyfuno materion byd-eang a lleol. Rydym yn falch iawn gweld y Cyngor Ieuenctid yn gwneud gwaith arbennig wrth gasglu a thrin a thrafod y pynciau hyn, ynghyd â’u cyflwyno i gynulleidfa ehangach. Dyma faterion pwysig tu hwnt sy’n haeddu ystyriaeth bellach.”  

Ym mis Gorffennaf 2024, bydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn cyflwyno cyfres o gwestiynau mewn ymateb i ganlyniadau’r bleidlais, i banel o ffigyrau cyhoeddus.

Mae’r digwyddiad hwn wedi ei gynnal ers saith mlynedd bellach ac yn gyfle i rannu llais pobl ifanc Ceredigion ynghylch materion sy’n bwysig iddyn nhw.

08/05/2024