Dathlu. Oedd, roedd sawl rheswm i ddathlu yn Theatr Felinfach yn ddiweddar gan gynnwys dathlu 75 mlynedd ers sefydlu y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel rhan o berfformiad Nadolig blynyddol Theatr Felinfach.

Mae llwyfannu’r sioe Nadolig unigryw hon yn rhoi cyfle i ddathlu cymuned yn cydweithio gan ddod at ei gilydd i greu, cymdeithasu a chwerthin a chael ambell brofiad newydd hefyd.

Eleni bu’r Panto hefyd yn rhan o’r gyfres deledu “Welsh Lives” a ddarlledwyd ar ITV Cymru cyn y Nadolig, lle bu’r rhaglen yn dangos hynt a helynt ymarferion, bwrlwm cefn llwyfan a rhoi cipolwg o’r perfformiad agoriadol.

Meddai Gary, cyn-aelod o gast y Panto ac erbyn hyn aelod blaenllaw o’r tîm sgriptio a chynhyrchu a chriw cefn llwyfan: “Fel rhywun sydd wedi bod â chysylltiad hir gyda Panto Felinfach, roedd yn braf cael rhannu’r profiad gyda chynulleidfa “Welsh Lives”. Mae’r pantomeim yn brosiect sy’n dathlu cymdogaethau a chreadigrwydd cymunedau cefn gwlad.”

“Mae pantomeim enwog Theatr Felinfach yn fwy cyfarwydd, efallai, i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith ac roedd bod o dan chwydd-wydr y rhaglen “Welsh Lives” yn gyfle ardderchog i waith y theatr gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a rhoi perspectif yr iaith Gymraeg ar brosiectau cymunedol, creadigol” meddai Dwynwen Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach.

Dywedodd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Diwylliant: “Mae mynd i wylio Panto Felinfach yn ddefod i gymaint o ni yng Ngheredigion. Mae’n brofiad sy’n codi calon bob amser – nid yn unig o ran cynnwys y Panto ond hefyd o gael gwylio actorion lleol o bob oed yn mwynhau cymaint ar y llwyfan, a gwybod bod yna fyddin o bobl lleol wrthi tu ôl y llenni yn sicrhau llwyddiant bob perfformiad. Mae’n wych i feddwl bod cynulleidfa ehangach yn mynd i gael y profiad cadarnhaol o fod yn rhan o’r Panto.”  

Am ragor o wybodaeth ewch ar wefan theatrfelinfach.cymru neu dilynwch y theatr ar y Cyfryngau Cymdeithasol ar @TheatrFelinfach; Facebook, YouTube, X (Trydar) ac Instagram.

Mae modd gwylio rhaglen Welsh Lives gan gynnwys eitem Theatr Felinfach ar wefan ITVX.

24/01/2024