Mae Andrew yn ofalwr i'w wraig, ac roedd wrth ei fodd â'r syniad o fod yn yrrwr bws. Cyflawnodd yr uchelgais hwn ar ôl derbyn hyfforddiant hanfodol drwy gynllun Cymunedau dros Waith a Mwy (CFW+) Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn blynyddoedd o hunangyflogaeth yn y diwydiant amaethyddol, cysylltodd Andrew â CFW+ ar ôl ariannu rhan cyntaf y cwrs ei hun. Doedd Andrew ddim yn gallu ariannu gweddill y cwrs ei hun gan ei fod yn rhoi straen ariannol ar ei deulu. Ariannodd Cynllun Llywodraeth Cymru CFW+ weddill yr hyfforddiant yn ogystal â'i brawf gyrru bws.

Darparodd CFW+ cefnogaeth llawn i Andrew drwy gydol ei daith. Cafodd ei swydd gyntaf fel gyrrwr bws gyda Midway Motors, yng Nghrymych. I gymryd ei brawf gyrru, darparodd Midway Motors fws i Andrew a chynigwyd swydd iddo ar ôl pasio ei brawf. Cymerodd ran ym mhob sesiwn un i un gyda'i fentor, Rachel, a chwblhaodd ei holl dasgau.

Dywedodd Rachel, ei fentor: “Roedd Andrew yn benderfynol i ddod yn yrrwr bws. Cwblhaodd bob tasg pan ofynnwyd iddo wneud hynny. Mae ganddo gymeriad gwych ac agwedd gadarnhaol at fod yn yrrwr bws. Edrychwn ymlaen at allu dweud ‘Diolch, drive!’ wrthych chi yn y dyfodol, Andrew.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Andrew wedi dangos sut y gall cynllun fel CFW+ fod o fudd i bobl o bob oed. Mae ei agwedd gadarnhaol a’i barodrwydd i ddysgu, ynghyd â chefnogaeth gan dîm CFW+ wedi arwain at Andrew yn sicrhau swydd gwych fel gyrrwr bws. Os byddech chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn elwa o gynllun CFW+ Llywodraeth Cymru, cysylltwch â ni am sgwrs.”

I gael gwybod mwy am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yng Ngheredigion, e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Cymorth Gwaith Ceredigion Work Support ar Facebook a @CymorthGwaithCeredWorkSupport ar Instagram.

09/04/2024