Ydych chi’n edrych am gymorth i fyw’n annibynnol?

Mae Canolfan Byw’n Annibynnol newydd Penmorfa, sy’n hybu annibyniaeth a chymorth cymunedol, ar fin trawsnewid y ffordd y mae unigolion yn dod o hyd i atebion a gwybodaeth i helpu eu hunain. Mae’r Ganolfan wedi’i lleoli yng nghanol Ceredigion, ar lawr gwaelod swyddfeydd y Cyngor Sir ym Mhenmorfa, Aberaeron.

Gweledigaeth y Ganolfan yw grymuso unigolion i fyw’n annibynnol am yn hirach yn eu cartref eu hunain. Mae'r ganolfan yn rhoi cyfle i unigolion gweld amrywiaeth o atebion sy'n gysylltiedig â gofal, technoleg, symudedd, a byw'n annibynnol. Rhoddir cyngor personol, am ddim, drwy declyn ar-lein AskSARA. Mae AskSARA yn awgrymu atebion ar gyfer byw’n fwy annibynnol drwy helpu pobl i hunanasesu eu hanghenion. Mae AskSARA ar gael ar-lein: West Wales Care Partnership - AskSARA (livingmadeeasy.org.uk)

Mae’r Ganolfan wedi’i rhannu i mewn i sawl maes arbenigol i arddangos y cymorth sydd ar gael ar gyfer anghenion amrywiol yn ein cymunedau, megis:

  • Ystafell bwrpasol AskSara
  • Gofal wedi’i alluogi drwy Dechnoleg
  • Cyfarpar gofal a symudedd
  • Cymorth o ran nam ar y golwg
  • Addasiadau tai
  • Ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân
  • Arweiniad ar daliadau uniongyrchol
  • Cymorth i ofalwyr a’r rhai sy’n derbyn gofal

Mae gan y Ganolfan Ystafell Hyfforddi integredig ar gyfer Trin a Thrafod Pwysau a bydd yn cynnig cyrsiau ar Iechyd a Diogelwch i’r grwpiau a nodwyd yn y gymuned leol.

Dywedodd Jenny, defnyddiwr gwasanaeth a bu’n ymweld â’r Ganolfan yn ddiweddar yn ystod sesiwn rhagolwg: “Roedd ymweld â'r Ganolfan newydd yn brofiad cadarnhaol iawn i mi. Mae gen i ddigon o gyfarpar gartref ond roedd gwasanaeth AskSARA yn hynod ddefnyddiol. Roedd staff hyd yn oed yn dangos sut oedd y dodrefn yn gweithio ac yn cynghori ble alla i brynu cadair bŵer yn lleol. Gadawais yno gyda syniadau gwerthfawr i wneud pethau'n haws i fy mhartner gartref a derbyn cymorth ychwanegol sydd ar gael i ofalwyr di-dâl fel fi.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae sicrhau bod ein cymuned yn gallu byw'n annibynnol gartref yn hollbwysig. Mae lansio Canolfan Byw'n Annibynnol Penmorfa Ceredigion yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i ddarparu atebion hygyrch ac arloesol i unigolion a theuluoedd sydd eisiau ffyrdd ymarferol o fyw yn fwy annibynnol. Mae'n wych gweld ystod mor eang o atebion i gyd o dan yr un to. Rydym yn gwahodd pawb i ymweld â’r cyfoeth o adnoddau sydd ar gael yng Nghanolfan Penmorfa.”

Bydd y Ganolfan ar agor i'r cyhoedd o 29 Ebrill 2024, rhwng 10:30-15:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan Canolfan Byw’n Annibynnol Penmorfa - Cyngor Sir Ceredigion neu cysylltwch â chanolfan gyswllt Clic ar 01545 570 881 neu drwy e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk

 

26/04/2024