Roedd Tyfu Canolbarth Cymru ar y cyd â Chynghorau Sir Ceredigion a Phowys, wedi cynnal digwyddiad ar ddatgarboneiddio ar ddydd Llun, 11 Mawrth 2024 yn Fferm Bargoed gan dynnu ynghyd arweinwyr, arbenigwyr a busnesau o’r sector a oedd yn awyddus i edrych ar ffyrdd o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chostau ynni.

Roedd y digwyddiad Atebion busnes Cynaliadwy yng Nghanolbarth Cymru: Lleihau allyriadau a chostau yn cynnwys trafodaethau difyr gan banel, gweithdai rhyngweithiol a chyflwyniadau gan Fusnes Cymru, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a’r rhwydweithiau ynni. Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i ddod i ddeall mwy am ddatgarboneiddio ac am strategaethau ymarferol ar gyfer datgarboneiddio eu gweithrediadau a chyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Ar y cyd, dywedodd Cynghorydd Sir Ceredigion Keith Henson, Aelod o’r Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon, a Chynghorydd Sir Powys Jackie Charlton, Aelod o’r Cabinet dros Bowys Gwyrddach: “Rydym wrth ein bodd o weld y croeso y mae busnesau yn ei roi ar draws y sectorau i ddatgarboneiddio fel elfen sylfaenol o’u gwaith.

“Roedd y digwyddiad hwn yn llwyfan i rannu gwybodaeth, arddangos arloesedd a chychwyn cydweithio er mwyn sbarduno'r newid tuag at economi carbon isel.

“Roedd yn wych gweld busnesau Canolbarth Cymru hefyd yn elwa o'r cymorth eang ac amrywiol sydd ar gael i ddeall sut y gall datgarboneiddio eu busnes helpu i hyrwyddo Canolbarth Cymru fel lle i wneud busnes gwyrdd gyda”

Mae'r digwyddiad yn cyd-fynd â chenhadaeth barhaus Tyfu Canolbarth Cymru a'r ddau awdurdod lleol, sef galluogi busnesau i fabwysiadu arferion cynaliadwy a lleihau eu hôl-troed carbon. Drwy siarad, cydweithio ac arloesi mae Tyfu Canolbarth Cymru yn ceisio bod yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol yn y rhanbarth.

Mae Fferm Bargoed wedi ymrwymo i fod yn fusnes carbon niwtral. Yn ystod y digwyddiad fe wnaeth Geraint Thomas, perchennog Fferm Bargoed, ddarparu taith, gan ddangos yr arferion cynaliadwyedd maen nhw'n eu dilyn ar hyn o bryd. Meddai: "Roedd y digwyddiad datgarboneiddio yn gyfle gwych i ni rannu arferion cyfredol, ein gwybodaeth a'n ffyrdd yr ydym wedi mynd i'r afael â heriau fel y gallem helpu i ddangos i fusnesau eraill sut i ddechrau neu gynyddu eu taith cynaliadwyedd. Gadewch i ni barhau â'r momentwm hwn, gobeithio mai dyma'r cyntaf o lawer o gyfleoedd a fydd yn dod â busnes gwyrdd yng Nghanolbarth Cymru ar flaen y gad o ran sgwrsio."

Diolch yn fawr i’r cyrff a roddodd nawdd i’r digwyddiad, sef Dosbarthwr Trydan y Grid Cenedlaethol (NGED), Trosglwyddwr Trydan y Grid Cenedlaethol (NGET), Rhwydwaith Ynni Scottish Power (SPEN) a Wales and West Utilities (WWU).

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Tyfu Canolbarth Cymru a digwyddiadau cynaliadwy yn y dyfodol, ewch i https://growingwelsh.powys1-prd.gosshosted.com/Ynni+SeroNet neu cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr misol sy’n cynnwys y newyddion diweddaraf am Tyfu Canolbarth Cymru, a hynny drwy e-bostio tyfucanolbarthcymru@ceredigion.gov.uk

 

20/03/2024