Mae gwasanaethau Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion wedi helpu un o drigolion Ceredigion, Kimberly, 23, i gael swydd yn ei hardal leol.

Ar ddiwedd 2023, ymunodd Kimberly â’r cynllun Cyflogaeth dan Gymorth Lleol (CGLl) sy’n cael eu gweithredu gan Gymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion a dechreuodd weithio’n agos gyda Misha, Mentor Cyflogadwyedd Ceredigion.

Oherwydd ei phrofiad blaenorol fel glanhawraig dymhorol, cydnabu Misha fod Kimberly eisiau dod o hyd i waith tebyg yn y diwydiant glanhau, ond y byddai angen y gefnogaeth angenrheidiol wrth gyfathrebu a chyfweld â darpar gyflogwyr, oherwydd ei phryder, iselder ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).

Treuliodd Misha lawer o amser yn cefnogi Kimberly, yn trafod darpar gyflogwyr, amgylcheddau gwaith ffafriol ac oriau gwaith realistig. Gyda chymorth Tîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion, rhoddwyd cynllun ar waith a dechreuodd Misha gysylltu â ddarpar gyflogwyr.

Yn fuan iawn, cafwyd sgwrs gadarnhaol gyda busnes lleol o Aberaeron o’r enw “50 Shades of Clean”, a oedd yn hapus i drafod Kimberly a’r rhwystrau yr oedd yn eu hwynebu yn ei thaith cyflogaeth. Mynychodd Kimberly nifer o ddyddiau prawf gyda'r busnes, a chafodd ei chydnabod yn fuan fel aelod allweddol o'r tîm.

Darparwyd ffôn symudol gyda chredyd i Kimberly i gael mynediad at apiau hanfodol ar gyfer ei swydd ac i gyfathrebu'n haws gyda'i chyflogwr, mentor, a ffrindiau.

Mae Kimberly wedi sicrhau gwaith hyd at ddau ddiwrnod yr wythnos, gan roi cyfle iddi fagu hyder a dysgu sgiliau newydd. Dywedodd: “Roedd yn ddull cyson iawn o ddod yn gyflogedig. Esboniodd fy Mentor bopeth i mi yn dda iawn ac roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus yn teithio i'w chyfarfod, oherwydd ei bod hi'n gwneud i bopeth edrych yn hawdd. Roedd yn bwysig fy mod yn gallu ennill arian, cael strwythur yn fy nhrefn wythnosol a datblygu sgiliau cymdeithasol.”

Dywedodd Misha, Mentor Cymorth Cyflogadwyedd: “Mae’n amlwg bod 50 Shades of Clean, fel cyflogwr, yn empathetig ac yn deall anabledd a chynhwysiant yn y gweithle, ac wedi dangos ffyrdd gweithredol o weithio gyda Kimberly. Maen nhw wedi bod yn gefnogol wrth roi amser i Kimberly ddod i arfer â’r swydd a’i gofynion, a gwneud addasiadau rhesymol lle bo angen, er mwyn ei chynorthwyo i reoli amser.”

Dywedodd Stephanie, sy’n gyflogwr i Kimberly yn 50 Shades of Clean: “Ar y cyd, mae’r prosiect hwn wedi gweithio’n dda iawn. Mae cael Misha i gymryd rhan nid yn unig wedi helpu Kimberly, ond mae hefyd wedi fy helpu i. Mae'r profiad wedi bod yn llyfn ac yn ddefnyddiol, ac ni allai pethau fod wedi bod yn haws. Rwy’n gwerthfawrogi cael Mentor a all weithredu fel y cyfathrebwr pan fo angen.”

Darperir cymorth yn lleol gan Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion drwy'r cynllun Cyflogaeth dan Gymorth Lleol. Ariennir y cynllun drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau mewn partneriaeth â Chynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Sir Gâr. Mae’r prosiect yn darparu cymorth i bobl 16 oed a hŷn sydd ag anabledd dysgu, neu awtistiaeth, i’w cefnogi i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

I gael gwybod mwy am y Gwasanaethau Cyflogaeth rydym yn eu darparu yng Ngheredigion, e-bostiwch TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Cymorth Gwaith Ceredigion Work Support ar Facebook a @CymorthGwaithCeredWorkSupport ar Instagram.

23/04/2024