Mae ymgynghoriad ar y cynnig i drosglwyddo’r gwasanaethau gofal o Gartref Gofal Preswyl Tregerddan i Gartref Gofal Hafan y Waun bellach ar waith, yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 19 Mawrth 2024.
Bwriad yr ymgynghoriad yw darganfod barn preswylwyr a'u teuluoedd, staff a'r gymuned ehangach ar ddyfodol Cartref Gofal Tregerddan yn Bow Street, a'r cyfle i drosglwyddo'r ddarpariaeth gofal i Gartref Gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth.
Yn dilyn penderfyniad y Cyngor i gymryd perchnogaeth o Gartref Gofal Preswyl Hafan y Waun ddiwedd 2023, mae cyfle i ailstrwythuro'r ddarpariaeth gofal preswyl yng ngogledd y sir er lles ein preswylwyr presennol ac yn y dyfodol.
Mae'r Cyngor yn gwahodd pobl i gyflwyno eu barn ar gyflawni'r cynllun. I gwblhau'r ymgynghoriad ar-lein, ewch i'n gwefan: https://forms.office.com/e/gWq4TeWYuu
Gellir cael copïau papur o'r ymgynghoriad yn y lleoliadau canlynol:
- Llyfrgell Aberystwyth (Canolfan Alun R. Edwards, Maes y Frenhines, Aberystwyth SY23 2EB)
- Canolfan Lles Llambed
- Llyfrgell Llambed
- Llyfrgell Aberaeron
- Llyfrgell Aberteifi
- Llyfrgell Llandysul
- Llyfrgell Cei Newydd
Dechreuodd yr ymgynghoriad ar 22 Ebrill a bydd yn dod i ben ar 15 Gorffennaf, 2024.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Mae'r Cyngor yn cydnabod ymrwymiad ac ansawdd y gweithwyr gofal yng Nghartref Tregerddan ac yn cydnabod y cyfoeth o gefnogaeth a ddarperir gan sefydliad Cyfeillion Tregerddan. Rydym yn gobeithio y bydd y cydweithrediad hwn yn parhau fel rhan o'r cynlluniau wrth i ni symud ymlaen. Mae lles preswylwyr yn arbennig o bwysig ac felly rydym yn annog y rhai sydd am rannu eu barn i wneud mewn da bryd cyn y dyddiad cau.”
I gael yr ymgynghoriad mewn ffurf eraill fel ffurf Hawdd i’w Ddarllen, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt CLIC ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk
23/04/2024