Mae cyfle i bobl ifanc Ceredigion ennill bwrsari o £1,500 i helpu gyda’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Yn dilyn llwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae Gwasanaeth Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyfle gan gwmni West Wales Holiday Cottages er mwyn cefnogi pobl ifanc gyda bwrsari ariannol eleni eto.

Bwriad y bwrsari yw rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed dderbyn £1,500 i helpu gyda’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Bydd yr ymgeisydd neu ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion sy'n banel o bobl ifanc o Geredigion.

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc: “Rydym yn ddiolchgar iawn ac yn gwerthfawrogi cyfle West Wales Holiday Cottages i gefnogi pobl ifanc yng Ngheredigion eleni eto. Fel ein hunain, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod y gall nifer o bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion brofi anawsterau wrth gael mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd materion economaidd-gymdeithasol. Roedd y fwrsariaeth yn hynod o lwyddiannus y llynedd, gyda thri pherson ifanc yn cael cymorth ariannol i'w helpu gyda'u prosiectau. Rydym yn gobeithio bydd y fwrsariaeth yn llwyddiant eto eleni, ac y bydd o fudd i bobl ifanc yng Ngheredigion.

“Oes angen cymorth ariannol arnoch i gyrraedd eich nodau? A fyddech chi'n elwa o gymorth ariannol i’ch helpu gyda hyfforddiant neu offer sydd eu hangen ar gyfer eich galwedigaeth ddewisol? Ydych chi'n chwilio am gefnogaeth i gychwyn eich menter eich hun? Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol ac yn chwilio am gymorth ariannol i brynu offer neu adnoddau? Os ydych wedi ymateb ie i unrhyw un o’r rhain, gwnewch gais!”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r bwrsari hwn yn drawsnewidiol ac wedi’i gynllunio i rymuso a chodi hwb i bobl ifanc yng Ngheredigion. Ei nod yw rhoi cymorth ariannol amhrisiadwy i bobl ifanc y Sir, gan eu galluogi i ddilyn eu dyheadau addysgol a datgloi dyfodol disglair sy’n llawn posibiliadau.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos 22 Gorffennaf 2024. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Gwion Bowen ar 07790 812939 neu e-bostiwch Gwion.Bowen@ceredigion.gov.uk am ffurflen ymgeisio.

09/05/2024