Bydd cronfa Cynnal y Cardi yn ailagor ar gyfer ail rownd o geisiadau ar 01 Chwefror 2024.
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau drwy gydol y cyfnod heriol hwn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Cronfa Cynnal y Cardi, a ariennir gan Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig wedi’i yrru gan Ffyniant Bro.
Mae dwy gronfa ar gael i ymgeisio amdanynt, sef:
Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi i gefnogi Datblygiad Cymunedol:
- Cynllun Grant Bach £1,000 - £10,000
- Cynllun Grant Mawr £10,001 - £50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynna’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)
Bydd y gronfa hon yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau refeniw a chyfalaf, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
- Seilwaith newydd ar gyfer cymunedau a chymdogaethau, neu welliannau i seilwaith sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys mannau gwyrdd lleol
- Datblygu a hyrwyddo digwyddiadau a phrofiadau lleol drwy gydol y flwyddyn, sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol a chrwydro o’i hamgylch
- Rhoi prawf ar ddulliau treialu ac astudiaethau dichonoldeb
- Cymorth ar gyfer gweithgareddau lleol ym maes y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd
- Buddsoddi yn y gwaith o feithrin capasiti a chefnogi seilwaith ar gyfer grwpiau cymunedol gan gynnwys cynllunio olyniaeth
- Mesurau cymunedol i leihau costau byw gan gynnwys mesurau i wella effeithlonrwydd ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd a’r newid yn yr hinsawdd
- Buddsoddi mewn seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol a chynnig cymorth ar gyfer seilwaith o’r fath
Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi i gefnogi busnesau Ceredigion:
- Grantiau busnes bach £1,000 - £10,000
- Grantiau datblygu busnes £10,001 - £50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynny’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)
Nod y gronfa hon yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi drwy rwydweithiau lleol.
Bydd y gronfa hon yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau refeniw a chyfalaf, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
- Gweithgarwch ym maes entrepreneuriaeth
- Cynorthwyo datblygiadau sy’n galluogi busnesau i ddechrau a thyfu
- Cynorthwyo i hybu arloesi a’r agenda o ran sgiliau ar gyfer busnesau bach a chanolig a busnesau newydd, er mwyn sefydlu’r amodau i greu swyddi sydd â gwerth uwch yn yr economi
- Cynorthwyo busnesau lleol i fanteisio ar dechnoleg ddigidol
- Cynorthwyo i atgyfnerthu gwaith datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni i fusnesau
- Cyllid i gynorthwyo gwaith comisiynu/asesu dichonoldeb strategol perthnasol
- Creu Canolfannau Menter er mwyn galluogi perchnogion busnes i rannu arfer da a chydweithio
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Mae’n wych gweld cronfeydd cymorth Cynnal y Cardi yn ailagor ar gyfer ail rownd o geisiadau. Os ydych yn fenter gymunedol neu’n fusnes yng Ngheredigion, byddwn yn eich annog i ystyried eich opsiynau a cheisio am gymorth trwy Cynnal y Cardi. Mae’r cyfleoedd ariannu hyn yn cefnogi ein blaenoriaethau corfforaethol i hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth ynghyd â chryfhau gwytnwch ein cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy, gwyrdd gyda chysylltiadau da.”
I sicrhau eich bod yn gymwys, danfonwch grynodeb byr yn amlinellu eich syniadau (fformat pwynt bwled) a dadansoddiad o'r gwariant at: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
Bydd y ffurflen gais ar gyfer Cronfa Cynnal y Cardi yn fyw ar y wefan hon Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cyngor Sir Ceredigion o ddydd Iau, 01 Chwefror 2024 ymlaen.
12/01/2024