Atgoffir preswylwyr o'r newidiadau i gasgliadau gwastraff ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc, cyn Gwyliau Banc mis Mai.

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi newid pryd y bydd gwastraff yn cael ei gasglu ar ddyddiau Llun Gŵyl Banc. Dros y Gwyliau Banc ym mis Mai byddwn yn ymgeisio i ddarparu casgliadau gwastraff fel a ganlyn:

Diwrnod Casglu Arferol

 

Casglu ar

Dydd Llun 6 Mai 2024

Symud i

Dydd Sadwrn 4 Mai 2024

Dydd Llun 27 Mai 2024

Symud i

Dydd Sadwrn 25 Mai 2024

Gofynnir i drigolion rannu’r wybodaeth mor eang â phosib gyda chymdogion, teulu, ffrindiau a chymunedau ar draws Ceredigion a all gael eu heffeithio. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru yn ystod yr wythnos sydd yn arwain at Ŵyl y Banc gydag unrhyw newid i’r drefn uchod: www.ceredigion.gov.uk/diweddariadaucasgliadaugwastraff

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor sir Ceredigion: “Rydym yn adolygu’n barhaus ein dull o ddarparu ein gwasanaethau gyda’r bwriad o roi’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni.

Byddwn yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth mor eang â phosib ac, fel bob amser fel rhan o Caru Ceredigion, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.”

Safleoedd Gwastraff Cartref

Dros y Gwyliau Banc ym mis Mai bydd oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd fel a ganlyn:

Diwrnod

Oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd dros y Gwyliau Banc

Dydd Sadwrn

10:00 - 15:00

Dydd Sul

10:00 - 15:00

Dydd Llun Gŵyl y Banc

10:00 - 15:00

Bydd dim newid i oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros y Gwyliau Banc ym mis Mai. Dyma’r oriau agor arferol:

Diwrnod

Oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros y Gwyliau Banc

Dydd Sadwrn

10:00 - 17:00

Dydd Sul

10:00 - 17:00

Dydd Llun Gŵyl y Banc

Ar gau

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt CLIC drwy ffonio 01545 570881 neu ewch i’r wefan www.ceredigion.gov.uk

26/04/2024