Mae cwmni technoleg wedi dewis Gorllewin Cymru fel canolfan gweithrediadau ar gyfer ei chwsmeriaid sylfaenol byd-eang, gan helpu i gryfhau'r sector technoleg yng Nghymru ac agor cyfleoedd i bobl leol yng Ngheredigion.

Bydd Delineate, cwmni ymchwil technoleg sy'n arloesi mewn ffyrdd newydd o gasglu mewnwelediadau defnyddwyr – sydd â chwsmeriaid brandiau bwyd a diod fawr, wedi'i leoli yng Ngheredigion.

Helpodd Trawsnewid Trefi, ymgyrch Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Cynnal y Cardi yng Nghyngor Sir Ceredigion i gefnogi buddsoddiad cyfalaf i adfywio nifer o’n trefi ledled Canolbarth Cymru, gan gynnwys Delineate i sicrhau adeiladau’r swyddfa newydd. Bydd y swyddfa yn Llandysul yn gartref i 50 o weithwyr sy'n gweithio ar draws ystod eang o swyddi o fewn y busnes, y mae eu dull arloesol o gynnal arolygon, ymchwil i’r farchnad yn helpu brandiau i ddeall eu cwsmeriaid a'r draws y byd yn amserol i wneud penderfyniadau busnes gwell.

Mae Cymru, ac yn fwy penodol, Ceredigion bellach yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddiwydiant technoleg y DU ac yn prysur ddod yn ganolfan ar gyfer twf a rhagoriaeth technoleg. Mae Delineate yn awyddus i chwarae rhan yn y llwyddiant hwnnw, gan ddenu diwydiannau gwerth uchel a helpu economïau lleol i ffynnu drwy gefnogi nod Llywodraeth Cymru i greu economi ffyniannus.

Mae’r cyflwyniad band eang cyflym iawn yn yr ardal wedi galluogi busnesau i ddewis Ceredigion fel lleoliad trwy ddod â chysylltedd cyflym a dibynadwy sy'n hybu galluoedd busnes.

Nod strategaeth economaidd Cyngor Sir Ceredigion yw rhoi cyfleoedd i bobl ifanc sy'n dymuno aros a datblygu gyrfa yng Ngheredigion sy'n cyd-fynd â'r gefnogaeth y mae Delineate wedi ei dderbyn drwy rhaglen ARFOR y Cyngor.

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw ARFOR sy'n gweithredu yng nghadarnleoedd traddodiadol yr iaith Gymraeg; yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i ddefnyddio entrepreneuriaeth a datblygiad economaidd ac felly, cynnal yr iaith i ffynnu drwy ymyriadau economaidd.

Rhan bwysig o strategaeth busnes Delineate yw ei pholisi recriwtio 'Cymru'n gyntaf', gyda'r holl swyddi newydd yn cael eu hysbysebu yng Nghymru yn gyntaf, bydd hyn yn naturiol yn dod â mwy o siaradwyr Cymraeg i mewn i'r cwmni. Mae 60% o'r tîm yn Gymry Cymraeg ac yn amlwg yn trafod yn y Gymraeg. Mae Delineate hefyd yn cyflwyno cyfleoedd dysgu’r iaith i aelodau o'r tîm nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Rydym yn croesawu'r newyddion am fusnes arloesol arall sydd wedi'i leoli yng Ngheredigion. Fel sir sydd gyda dwy brifysgol a gwaith ar y gweill i ddatblygu ein seilwaith digidol ymhellach, mae Ceredigion yn cynnig cyfle i fusnesau fel Delineate. Mae hefyd yn cyd-fynd â'n Strategaeth Economaidd i weithio ar y cyd tuag at sicrhau twf economaidd cryf, cynaliadwy a mwy gwydn. Nid yn unig y mae'r newyddion yma’n dda i fusnesau, ond hefyd i bobl ifanc yn yr ardal a allai, heb y cyfleoedd twf hyn, wynebu dyfodol gwahanol iawn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddysgu mwy am y busnes, pam eu bod yn falch o fod yng Ngorllewin Cymru, a sut maent yn bwriadu buddsoddi ymhellach yn eu cymuned.”

Am fwy o wybodaeth am Drawsnewid Trefi ac ARFOR, ewch i ARFOR - Creu Gwaith - - Cyngor Sir Ceredigion neu cysylltwch â thîm Cynnal y Cardi ar: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk

12/04/2024