Mae’r cynllun sy’n darparu prydau ysgol am ddim i blant yng Ngheredigion wedi cael ei ymestyn i gynnwys disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o fis Medi 2023 ymlaen.

Bellach, gall holl ddisgyblion Cyfnod Dysgu Sylfaen a CA2 fanteisio ar y cynllun hwn, gan sicrhau bod Ceredigion ymhell o flaen amserlen Llywodraeth Cymru i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd erbyn mis Medi 2024.

Yn dilyn cyllid gan Llywodraeth Cymru, cyflwynodd Cyngor Sir Ceredigion gam cyntaf Prydau Ysgol Am Ddim i ddisgyblion yn Nosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 ym mis Medi 2022, a disgyblion Blwyddyn 3 a 4 ym mis Ebrill 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Dyma newyddion calonogol iawn i deuluoedd ar hyd a lled y sir. Mewn ymateb i'r cynnydd parhaus mewn costau byw, mae hwn yn gam positif ymlaen o ran sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn llwglyd tra yn yr ysgol ac yn mynd i'r afael â thlodi yn ein sir. Rydym am sicrhau’r dechrau gorau i ddisgyblion Ceredigion, ac elfen bwysig o hynny, yw darparu prydau maethlon fydd yn eu hysgogi a’u hannog i ddysgu a mwynhau yn yr ysgol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gynorthwyo disgyblion yn yr ysgol, cymerwch olwg ar y Grant Hanfodion Ysgol sydd ar gael ar ein gwefan: Hanfodion Ysgol 

01/09/2023