Ymgyrch genedlaethol sy’n digwydd yn flynyddol yw Wythnos y Gofalwyr, i godi ymwybyddiaeth o ofalu a’r heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, ac i gydnabod y cyfraniad maen nhw’n ei wneud i deuluoedd a chymunedau. Eleni cynhaliwyd Wythnos y Gofalwyr rhwng y 5ed a’r 11eg o Fehefin.

Cynhaliodd Tîm Cymorth Gofalwyr a’r Gymuned, Cyngor Sir Ceredigion, ddigwyddiad o gerddoriaeth fyw ar gyfer gofalwyr di-dâl ar Graig Glais yn Aberystwyth ar ddydd Gwener, 9 Mehefin, i gynnig hwyl ac adloniant iddynt.

Cafodd dros 70 o ofalwyr a’u gwesteion eu cludo i’r safle ar y trên bach sy’n dringo’r llethr. I’w croesawu roedd gwydryn o ffiz di-alcohol a chawsant bryd o fwyd bys a bawd a baratowyd gan fwyty Y Consti.

I gychwyn adloniant y noson roedd grŵp o ofalwyr lleol ‒ sy'n canu gyda'i gilydd er mwyn yr hwyl ‒ wedi gwahodd pawb i ymuno gyda nhw i ganu detholiad o ganeuon o bob cwr o'r byd. Yna aeth band The Hornettes: Take Two i’r llwyfan i ddiddanu’r gynulleidfa gyda medli o ganeuon o’r 1960au hyd yr 80au.

Dywedodd Susan Kidd, Swyddog Datblygu Gofalwyr Ceredigion, fod “pawb wrth eu boddau. Dywedodd sawl gofalwr ei bod hi’n hyfryd eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’i bod yn braf cael noson heb ofalon. Clywyd un gofalwr yn gweiddi, “mae ‘nhraed i’n brifo!” ar ôl yr holl ddawnsio. Gobeithio fod pawb wedi mynd adre ar ddiwedd y noson yn teimlo fel eu bod wedi cael noson dda a saib o’u rôl ofalu.”

Dywedodd Greg Jones, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Cymorth Cynnar: “Roedd yn fraint cael fy ngwahodd i Noson y Gofalwyr yn Consti a hynny yn ystod fy wythnos gyntaf yn fy rôl newydd. Roedd modd gweld fod y noson wedi dod â boddhad i lawer a bod digwyddiadau fel hyn mor bwysig i'n gofalwyr di-dâl, i roi seibiant o'u rôl ofalu a seibiant i'r rhai sy’n cael gofal. Roedd hefyd yn hyfryd gweld grŵp canu’r gofalwyr yn cychwyn adloniant y noson. Gwnaeth Sara a'r tîm waith rhagorol yn trefnu digwyddiad hyfryd iawn ac edrychaf ymlaen at fynychu rhagor ohonynt yn y dyfodol.”

I glywed rhagor am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yng Ngheredigion, neu i ymuno â Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Ceredigion, cysylltwch â’r Tîm Cymorth Gofalwyr a’r Gymuned: cysylltu@ceredigion.gov.uk neu 01545 574200.

Os ydych chi’n ofalwr di-dâl sy'n mwynhau canu ac yr hoffech ymuno â grŵp canu’r gofalwyr sy'n cwrdd bob pythefnos yn Aberystwyth, cysylltwch ag Iona Sawtell: ionasawtell@yahoo.co.uk.

15/06/2023