Mae trigolion a phartïon a chanddynt fuddiant yng Ngheredigion yn cael eu holi am eu barn am ardaloedd cadwraeth Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Llanbadarn Fawr.

Mae ardaloedd cadwraeth yn ardaloedd penodol o werth pensaernïol neu hanesyddol arbennig, ac mae gan Geredigion 13 i gyd. Mae'n ofynnol o bryd i'w gilydd i Gyngor Sir Ceredigion adolygu'r ardaloedd hyn a llunio cynigion ar gyfer eu cadw a'u gwella.

I wneud hyn mae'r Cyngor yn cynnal neu'n diweddaru Arfarniadau ei Ardaloedd Cadwraeth i nodi beth sy'n gwneud ardal yn arbennig ac unrhyw gyfleoedd neu broblemau a all fodoli. Mae hyn yn sail i gynlluniau rheoli manylach sy'n nodi ymatebion priodol i fynd i'r afael â'r cyfleoedd a'r problemau hyn.

Mae'r Cyngor wedi comisiynu Griffiths Heritage Consultancy i gefnogi a datblygu Arfarniadau a Chynlluniau Rheoli Ardaloedd Cadwraeth ar gyfer chwe thref yng Ngheredigion fel rhan o waith ehangach creu lleoedd sydd wedi bod ar waith. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: “Rwy’n annog pawb sydd â buddiant i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, fel y gellir cynnwys barn trigolion a sefydliadau er mwyn sicrhau bod treftadaeth arbennig Ceredigion yn cael ei rheoli am genedlaethau i ddod. Mae drafftiau cychwynnol ar gyfer Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Llanbadarn Fawr yn barod i’w gweld ac mae gennym ddiddordeb mewn clywed barn y cyhoedd ar y gwaith hyd yma.”

Os hoffech ddweud eich dweud ar gynnwys arfarniadau a chynlluniau rheoli ardaloedd cadwraeth, neu os hoffech ddysgu mwy am yr ardaloedd cadwraeth, dewch i un o’r digwyddiadau ymgynghori galw heibio canlynol:

Dyddiad

Tref

Lleoliad

Amser

Dydd Iau, 14 Medi

Aberaeron

Neuadd Goffa

4pm-6pm

Dydd Iau, 21 Medi

Aberystwyth

Arad Goch

4pm-6pm

Dydd Gwener, 22 Medi

Llanbadarn Fawr

Neuadd yr Eglwys

4pm-6pm

Dydd Gwener, 29 Medi

Aberteifi

Neuadd y Dref

4pm-6pm

Neu, os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr o randdeiliaid, neu am unrhyw fanylion eraill, cysylltwch â Gwasanaeth Polisi Cynllunio’r Cyngor drwy e-bost yn ldp@ceredigion.gov.uk

I ddarganfod mwy am y gwaith ehangach o ran creu lleoedd ar gyfer chwe thref Ceredigion ewch i https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/cynllunio-rheoli-adeiladu/creu-lleoedd/

01/09/2023