Cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Ceredigion sesiwn cwestiwn ac ateb lwyddiannus yn Siambr y Cyngor ar 14 Gorffennaf 2023. Dyma’r chweched flwyddyn i Gyngor Ieuenctid Ceredigion gynnal digwyddiad o’r fath.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i Gyngor Ieuenctid Ceredigion ofyn cwestiynau ynglŷn â materion sy'n effeithio ar bobl ifanc i banel o bobl sy’n dylanwadu a gwneud penderfyniadau.

Aelodau’r panel eleni oedd Ben Lake, AS; Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cyngor Sir Ceredigion; Sara Jermin, Pennaeth Cyfathrebu a Pherfformiad, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

O ganlyniad i ymgyrch ieuenctid ‘Rhoi dy Farn Ceredigion’ ym Mis Mawrth 2023, lle wnaeth dros 2,100 o bobl ifanc lleol bleidleisio ar y pynciau llosg oedd bwysicaf iddynt nhw, cafodd cyfres o gwestiynau eu paratoi a’u cyflwyno gan aelodau o’r Cyngor Ieuenctid. Roedd y cwestiynau yn tynnu sylw at faterion tebyg i drafnidiaeth, yr argyfwng costau byw, addysg a chyflogadwyedd.

Dywedodd Ifan Meredith, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: "Mae'r digwyddiad llwyddiannus yma wedi bod yn gyfle da i bobl ifanc ledled Ceredigion ddatgan eu barn am faterion cyfoes. Roedd yn fraint gennyf gadeirio'r digwyddiad yma lle cafwyd amrywiaeth o ymatebion gan y panel. Mawr obeithiaf bydd y panelwyr yn ystyried barn pobl ifanc Ceredigion ac yn parhau i ymgynghori â'r ieuenctid."

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Roedd hi’n bleser fod yn rhan o’r panel i drafod themâu pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc yn ein sir. Roedd safon ac aeddfedrwydd y drafodaeth yn eithriadol, sy’n galondid mawr at ddyfodol Ceredigion. Mae'r Cabinet a minnau'n edrych ymlaen at drafod y themâu hyn sydd mor bwysig i'n pobl ifanc.”

Cafodd y digwyddiad ei agor a’i gloi gan Aled Lewis, Aelod Seneddol Ieuenctid Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain a disgybl Ysgol Gyfun Aberaeron. Yn arwain y digwyddiad oedd Ifan Meredith, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion 2022-23 a disgybl Ysgol Bro Pedr.  

28/07/2023