Mae rhaglen radio newydd wedi cael ei lansio sy’n trafod popeth yn ymwneud â’r Gymraeg a’i diwylliant.

Bwriad ‘Cymru United’, sy’n cael ei gynnal gan Cered: Menter Iaith Ceredigion a Radio Bronglais yw cefnogi dysgwyr Cymraeg drwy gyflwyno eitemau gan siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg.

Cyflwynir y rhaglen trwy gyfrwng y Saesneg gan Swyddog Datblygu Cered, Rhodri Francis, ond mae'n cynnwys cerddoriaeth Gymraeg ac amrywiaeth o gyfweliadau yn y ddwy iaith i helpu pobl sy’n swil eu Cymraeg i gyfarwyddo â’r iaith.

Dywedodd Rhodri Francis: “Mae’r rhaglen hon yn gyfle gwych i ddangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – Cymry Cymraeg, di-Gymraeg, dysgwyr, pobl ifanc – pawb. Mae'n iaith sy'n perthyn i'r byd.”

Dywedodd Rheolwr Darlledu Radio Bronglais, Sam Thomas: “Mae’n gyffrous iawn dod â’r Gymraeg i gynulleidfa ehangach sy’n cynnwys y di-Gymraeg. Ar y sioe cawn gerddoriaeth pop a roc Cymraeg, sgyrsiau am ddigwyddiadau a diwylliant Cymraeg. Un o amcanion Radio Bronglais yw uno a dathlu’r cymunedau gwych sydd gennym yn yr ardal ac mae’r rhaglen hon yn gyfle i wneud hynny. Os oes gan unrhyw un awgrymiadau neu os hoffech gyfrannu at y rhaglen, cysylltwch â ni ar cyswllt@radiobronglais.cymru

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Diwylliant: “Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o bŵer y cyfryngau torfol a’r angen i’r Gymraeg fod yn amlwg iawn ar bob cyfrwng posib. Mae’n dda gweld rhaglen radio newydd yn cael ei chreu sy’n dathlu ac yn hyrwyddo popeth i wneud â’r Gymraeg a Chymreictod. Os ydych yn newydd i’r Gymraeg, yn dysgu ers sbel, neu’n swil eich Cymraeg, ewch ati i wrando ar Cymru United i gael cefnogaeth benodol yn ogystal â sgyrsiau a cherddoriaeth ddifyr.”

Mae'r rhaglen yn cael ei darlledu ar Radio Bronglais bob nos Iau am 7pm. Dyma'r ddolen: Cymru United neu gwrandewch ar i87.8 FM.

18/12/2023