Dychwelodd Ras yr Iaith i Geredigion eleni ddydd Iau, 22 Mehefin 2023, gyda 450 o blant ysgolion cynradd ardal Aberystwyth yn cymryd rhan.

Nid ras gystadleuol yw Ras yr Iaith ond ras hwyl i ddathlu’r Iaith Gymraeg ac mae’r digwyddiad yn cael ei gydlynu gan Fentrau Iaith Cymru a’i drefnu yn lleol gan Cered: Menter Iaith Ceredigion.

Eleni, roedd Ras yr Iaith yn ymweld â 11 o drefi ledled Cymru, sef Abergwaun/Wdig, Abertawe, Caerffili, Cei Conna, Llangefni, Nefyn, Pontypridd, Pontypŵl, Porthcawl, Y Rhyl, ac wrth gwrs Aberystwyth.

Cafwyd araith fer gan y Cynghorydd Catrin M.S. Davies, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros y Gymraeg a Diwylliant, a chyd-ganwyd yr anthem i gyfeiliant Ensemble Pres Gwasanaeth Cerdd Ceredigion. Yna, cychwynnodd y rhedeg am 10yb o Harbwr Aberystwyth gan ddilyn dilyn cwrs 1,300m ar hyd y Promenâd i’r Bandstand

Yn tywys y rhedwyr roedd Owain Schiavone, wyneb cyfarwydd yn Aberystwyth a thu hwnt, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Golwg a sylfaenydd cylchgrawn cerddoriaeth Y Selar, sydd hefyd yn rhedwr o fri. Yn ddiweddar, dewiswyd Owain i gynrychioli tîm Masters Cymru ac mae wedi bod yn brysur yn trefnu Ras y Barcud yn absenoldeb ei sefydlydd Richard ‘Dic’ Evans – unigolyn oedd yn gwbl allweddol i ddatblygiad Ras yr Iaith.

Dywedodd Steffan Rees, Arweinydd Tîm Cered a phrif drefnydd y digwyddiad: “Roedd yn wych cael Ras yr Iaith yn ôl yng Ngheredigion er mwyn gallu dathlu’r Gymraeg mewn ffordd llawn lliw, egni a hwyl. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r ysgolion, staff a gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth a hoffwn ddiolch eto i’r noddwyr sef Cyngor Tref Aberystwyth, Tesco Aberystwyth a Chastell Howell.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Diwylliant: “Dyma ddigwyddiad di-guro. Cawsom ddiwrnod braf o haf a chael ei fwynhau ar lan y môr yn Aberystwyth yng nghwmni cannoedd o blant Ceredigion yn ymarfer eu Cymraeg a’u coesau. Diolch o galon i aelodau staff Ceredigion, yr athrawon, y rhieni a'r gofalwyr wnaeth sicrhau llwyddiant yr achlysur.”

Wedi i’r rhedwyr gyrraedd y Bandstand, cafwyd anerchiad gan y Cynghorydd Maldwyn Lewis sef Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion ac awr o ganu a dawnsio hwyliog gan Mei Gwynedd a’r Band Tŷ Potas.

06/07/2023