Nid oes gan y Cyngor unrhyw bryderon uniongyrchol bod RAAC, sef concrit aeredig awtoclafio wedi'i atgyfnerthu wedi'i ddefnyddio i adeiladu adeiladau ysgolion Ceredigion. Fodd bynnag, er mwyn rhoi sicrwydd i rhieni / gwarchodwyr, bydd y Cyngor yn cynnal asesiadau manwl pellach ar Ysgolion a adeiladwyd neu y cafwyd eu hymestyn rhwng 1950/60au a 1990 i gadarnhau'r sefyllfa'n llawn. Ni fyddwn yn cynnal asesiadau ar ysgolion a adeiladwyd cyn 1950, na chwaith Ysgolion newydd. Mae iechyd a diogelwch dysgwyr, athrawon, staff, rhieni/gwarchodwyr a gofalwyr yn flaenoriaeth i ni fel Sir, ag felly mi fyddwn, yn unol ag Awdurdodau Lleol eraill yn Nghymru, yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau nesaf i werthuso’r sefyllfa’n llawn yng Ngheredigion.

08/09/2023