Estynnwyd gwahoddiad i ffoaduriaid sy’n byw yn lleol i ddod ynghyd yn yr haul i nodi Wythnos Ffoaduriaid, a gynhelir rhwng 19 a 25 Mehefin.

Daeth ffoaduriaid o Wcráin, Affganistan a Syria, sy’n byw yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gâr, i’r digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ddydd Sul, 11 Mehefin 2023.

Trefnodd Cyngor Sir Ceredigion y digwyddiad i ddathlu cyfraniad ffoaduriaid i’r DU ac i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o pam y mae pobl yn ceisio noddfa. Mae llawer o’r unigolion hyn wedi wynebu caledi difrifol wrth ddianc rhag gwrthryfel a gweld eu cartrefi a’u bywydau’n cael eu dinistrio.

Roedd cyd-weithwyr o Urdd Gobaith Cymru, y Groes Goch, Tîm Datblygu Cymunedol Allgymorth y GIG ac Addysg Oedolion Cymru hefyd yn bresennol.

Yn bresennol yn y digwyddiad oedd y Cynghorydd Maldwyn Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, a ddywedodd: “Heb os ac oni bai, cefais fy nhyffwrdd gyda y nifer o ffoaduriaid a ddaeth ataf yn datgan eu diolchgarwch diffuant am y croeso yng Ngheredigion. Hoffem ddiolch i'r rheiny a ddaeth i ymuno yn yr hwyl a hefyd hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad a’n diolch i’r noddwyr a’r gwesteiwyr am eu holl waith caled a’n hymrwymiad.”

Dywedodd Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog: “Braf oedd cael croesawu ffoaduriaid yr ardal leol i Wersyll yr Urdd Llangrannog. Roedd yn brynhawn hyfryd yng nghwmni ffrindiau hen a newydd. Mae gweld y plant yn mwynhau ac yn arbennig yn datblygu yn eu hyder a’u sgiliau ieithyddol yn destun balchder mawr i ni fel Gwersyll a mudiad”.

Mewn partneriaeth ag Urdd Goabith Cymru, darparodd y Cyngor a sefydliadau eraill ddigwyddiad hwyl a chymdeithasol gan roi cyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd a mwynhau gweithgareddau tebyg i Zip Wire, Rhaffau Uchel, Beiciau Cwad, Dringo Wal, Castell Neidio, a llawer mwy. Darparwyd lluniaeth a chafwyd prynhawn llawn hwyl. Roedd bron 200 o bobl yn bresennol o’r tair sir.

16/06/2023