Bydd premiymau’r Dreth Gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yng Ngheredigion yn newid o fis Ebrill 2024 ymlaen.

Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, a ddenodd dros 1,400 o ymatebion.

Ffurfiodd canlyniadau’r ymgynghoriad ran o’r adroddiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod Cabinet ar 05 Rhagfyr 2023 ac yna i gyfarfod y Cyngor Llawn ar 14 Rhagfyr 2023.

Gwnaed y penderfyniadau canlynol gan y Cyngor Llawn ar 14 Rhagfyr 2023:

Eiddo Gwag Hirdymor:

Bydd y Premiwm Treth Gyngor bresennol o 25% yn cynyddu, a hynny o 01/04/24 ymlaen, i:

  1. 100% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers pum mlynedd neu lai.
  2. 150% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros bum mlynedd a hyd at ddeg mlynedd (gan gynnwys deg mlynedd).
  3. 200% ar gyfer eiddo sy’n wag yn hirdymor ers dros ddeg mlynedd.

Bydd pob cyfnod amser yn cynnwys y cyfnod cychwynnol cyntaf o 12 mis cyn bod annedd yn cael ei diffinio yn Eiddo Gwag Hirdymor am nad yw'n cael ei meddiannu a heb fawr o ddodrefn.

Ail Gartrefi

Bydd y Premiwm Dreth Gyngor presennol o 25% yn cynyddu i:

  1. 100% o 01/04/24 ymlaen, ac yna i
  2. 150% o 01/04/25 ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r penderfyniad a wnaed heddiw yn benllanw cyfnod hir o ymgynghori, trafod a chasglu tystiolaeth. Rwy’n ffyddiog y bydd y newid yn gam cadarnhaol ymlaen i fynd i’r afael ag eiddo gwag hirdymor, gyda’r gobaith o sicrhau bod cyflenwad da o dai ar gael ar y farchnad ar gyfer ein pobl leol. Mae’r premiwm ar ail gartrefi hefyd yn adleisio cyfraddau tebyg mewn siroedd cyfagos, gan olygu na fyddai Ceredigion yn dod yn eithriad o ran cyfraddau isel ar hyd arfordir Cymru.”

Am ragor o wybodaeth ac i ddarllen yr adroddiad llawn, ewch i'n gwefan: Cyfarfod y Cyngor, 14 Rhagfyr 2023 

14/12/2023