Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi newid pryd y bydd gwastraff yn cael ei gasglu ar ddyddiau Llun sy’n wyliau banc.
Ar gyfer Gŵyl Banc mis Awst eleni, byddwn yn ymgeisio i ddarparu casgliadau gwastraff fel a ganlyn:
Diwrnod Casglu Arferol |
Casglu ar |
|
Dydd Llun, 28 Awst |
symud i |
Dydd Sadwrn, 26 Awst |
Gofynnir i drigolion rannu’r wybodaeth mor eang â phosib gyda chymdogion, teulu, ffrindiau a chymunedau ar draws Ceredigion a all gael eu heffeithio. Bydd unrhyw newid i’r drefn uchod yn cael ei ddiweddaru ar y wefan yn ystod yr wythnos cyn y Gŵyl Banc: Diweddariadau Casgliadau Gwastraff
Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rydym yn adolygu’n barhaus ein dull o ddarparu ein gwasanaethau gyda’r bwriad o roi’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni.
“Mae casgliadau gwastraff ar wyliau banc yn hanesyddol wedi bod yn broblematig ac wedi cynnig heriau. Yn ystod 2023, ein bwriad yw dod â chasgliadau a drefnwyd ar gyfer Dydd Llun Gŵyl Banc ymlaen i'r dydd Sadwrn blaenorol. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi gwell cyfle i ni sicrhau’r adnoddau sydd eu hangen arnom i ddarparu’r gwasanaethau ac yn rhoi cyfle i adfer yn fuan wedyn os na allwn gasglu ar y diwrnod a drefnwyd.
“Byddwn yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth mor eang â phosib ac, fel bob amser fel rhan o Caru Ceredigion, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus. Rhannwch y neges hon gyda’ch cymdogion nad ydynt ar y cyfryngau cymdeithasol”.
Safleoedd Gwastraff Cartref
Ar gyfer Gŵyl Banc mis Awst, bydd oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llanbed a Chilmaenllwyd fel a ganlyn:
Diwrnod |
Oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llanbed a Chilmaenllwyd dros Gŵyl Banc mis Awst |
Dydd Sadwrn |
10:00-15:00 |
Dydd Sul |
10:00-15:00 |
Gŵyl Banc Dydd Llun |
10:00-15:00 |
Ni fydd newid i oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros Gŵyl Banc mis Awst:
Diwrnod |
Oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros Ŵyl y Banc ym mis Mai |
Dydd Sadwrn |
10:00-17:00 |
Dydd Sul |
10:00-17:00 |
Gŵyl Banc Dydd Llun |
Ar gau |
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Cyngor Sir Ceredigion drwy ffonio 01545 570881 neu ewch i’n gwefan: Cyngor Sir Ceredigion
17/08/2023