Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi cael eu hymestyn mewn tri chanol tref yng Ngheredigion.

Cadarnhawyd yn ystod cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 21 Medi 2023 y bydd y cyfyngiadau sy'n targedu yfed alcohol mewn ardaloedd dynodedig yng nghanol trefi, yn parhau mewn grym o 20 Hydref 2023 am dair blynedd ychwanegol tan 19 Hydref 2026. Y trefi dan sylw yw Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r pwerau hyn yn helpu’r Heddlu i fynd i’r afael â niwsans, aflonyddwch neu anhrefn sy’n gysylltiedig ag yfed diod feddwol yn yr ardaloedd dan sylw. Mae Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn golygu ei bod yn drosedd os na fydd unigolyn yn cydymffurfio â chais gan Swyddog yr Heddlu neu Swyddog awdurdodedig i beidio ag yfed alcohol, neu os yw’n gwrthod ildio’r alcohol i’r swyddog yn yr ardal ddynodedig. Bydd hysbysiadau cyhoeddus yn cael eu harddangos yn y wasg i roi gwybod i’r cyhoedd am yr estyniad.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd: “Mae’r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus cyfredol erbyn hyn wedi’u hadnewyddu ddwywaith ers eu cyflwyno yn 2017, o ganlyniad i’r effaith gadarnhaol maent wedi cael ar leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a bygythiol sy’n gysylltiedig ag alcohol. Bydd ymestyn y darpariaethau hyn yn helpu i sicrhau bod ein trefi'n parhau i fod yn fannau croesawgar, ffyniannus a diogel ar gyfer pobl o bob oed a chefndir.”

Gellir gweld y gorchmynion a’r mapiau cysylltiedig ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Yfed alcohol mewn mannau cyhoeddus 

13/10/2023