Mae’r map sy’n dangos lle mae Mannau Croeso Cynnes y sir wedi’u lleoli bellach wedi’i ddiweddaru ar gyfer gaeaf 2023.

Cafodd tua 2,000 o bobl groeso cynnes mewn lleoliadau cymunedol ledled y sir y gaeaf diwethaf. Nod y canolfannau hyn yw annog cymunedau i ddod at ei gilydd am sgwrs a phaned – mae rhai yn cynnig pryd poeth a gweithgareddau hefyd.

Eleni, mae 41 Man Croeso Cynnes ar gael i bawb eu defnyddio, a hynny yn rhad ac am ddim neu am gyfraniad bach.

Edrychwch ar y map rhyngweithiol ar wefan y Cyngor i ddod o hyd i’ch Man Croeso Cynnes lleol chi: Mannau Croeso Cynnes Gaeaf 2023-24

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy'n cadeirio Is-grŵp Tlodi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: "Mae mor bwysig i ni gyd ddod at ein gilydd fel hyn a rwy'n annog pobol i alw heibio eu lle croeso cynnes agosaf. Mae’r trefnu a’r coffi a’r croeso yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr yn bennaf a mae nhw’n sicrhau sesiynau bywiog, croesawus a chynnes. Mae’n gyfle gwych i chi sgwrsio gyda ffrindiau hen a newydd ac i glywed beth sy'n digwydd yn lleol.”
 
Dywedodd Hazel Lloyd-Lubran, Prif Weithredwr CAVO: "Mae llawer o'r mannau cymunedol a oedd yn rhan o'n hymgyrch Croeso Cynnes y llynedd wedi parhau i gynnig gweithgareddau a chyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd. Os ydych chi'n ystyried sefydlu Man Croeso Cynnes yng Ngheredigion ac angen ychydig o gymorth ariannol, cysylltwch â ni."

Gall pobl nad ydynt yn gallu cael mynediad at y map ar-lein ffonio gwasanaethau cwsmeriaid Clic ar 01545 570881 i ofyn am y Mannau Croeso Cynnes. Os ydych chi'n ystyried sefydlu Man Croeso Cynnes yng Ngheredigion, cysylltwch â CAVO ar 01570 423232.

06/11/2023