Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Ceredigion yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Ceredigion – sy’n rhan o’r rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Llesiant Gydol Oes: “Mae Cymru yn arwain y ffordd; mae’r polisi hwn yn cynnig cyfle anferth i wneud newid arhosol a chadarnhaol i ofal pobl ifanc yng Nghymru – gan fod o fudd i blant sy’n derbyn gofal heddiw, ac yn y dyfodol. Gall maethu gyda’ch Awdurdod Lleol gynnig nifer o fanteision, gan gynnwys derbyn cymorth a hyfforddiant ac, yn bwysicaf oll, yr opsiwn i bobl ifanc aros yn lleol. Mae cymunedau lleol yn allweddol i alluogi’r newid hwn i ddigwydd. Cysylltwch â thîm Maethu Cymru Ceredigion heddiw i gael rhagor o wybodaeth.”

Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.

Symudodd y gofalwr maeth Jo o asiantaeth faethu annibynnol i Faethu Cymru yn gynharach eleni. Esboniodd ei thaith – a’r gwahaniaeth y mae hi wedi’i weld wrth faethu gyda’r awdurdod lleol:

“Ar ôl troi'n ddeugain, dechreuais faethu pobl ifanc yn eu harddegau drwy asiantaeth. Roedd llawer o’r bobl ifanc yn dod o'r tu allan i’r ardal. Roedd hyn yn eu rhoi ar y droed ôl. Fe wnaethant golli cysylltiad â’u ffrindiau, y lleoedd yr oeddent yn eu hadnabod, a’u gwreiddiau. Nawr, rwy'n maethu gyda'r awdurdod lleol, mae’r plant yn gallu aros yn lleol. Mae hyn yn golygu y gallant gynnal cysylltiad â’u gwreiddiau sy’n eu helpu i deimlo’n ddiogel ac mae’n fwy naturiol ar gyfer ymweliadau, mynediad ac amser teulu.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu a sut i drosglwyddo, ffoniwch dîm Maethu Cymru Ceredigion ar 01545 574000 neu ewch i Maethu Cymru: Ceredigion 

11/08/2023