Mae Porth Cymorth Cynnar yn falch o gyhoeddi bod Rebecca Baker wedi ennill y categori cryf iawn eleni, sef ‘Ymrwymiad ac Ymroddiad Eithriadol a Ddangoswyd i Ddiogelu Plant’, yng ngwobrau’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol.

Mynychodd Rebecca, sy’n Fentor Sgiliau Plant a Phobl Ifanc yn y Tîm Cymorth a Chyrhaeddiad, y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ar 09 Mehefin 2023 gydag Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol  yn agor y seremoni.

Dywedodd Rebecca: “Cefais sioc a’r fraint o gael fy enwebu hyd yn oed ar gyfer y wobr. Mae cefnogi plant a phobl ifanc Ceredigion yn ymdrech tîm ac rwy’n ystyried fy hun yn ffodus iawn i gael gweithio gyda phobl mor dalentog, ysbrydoledig a gwybodus yn Porth Cymorth Cynnar, Ysgol Penglais a lleoliadau eraill yr wyf yn mynychu.”

Mae Rebecca, sy’n gweithio mewn ysgolion cynradd a lleoliadau anogaeth yn y gymuned yn ardal Aberystwyth, yn ogystal ag Ysgol Uwchradd Penglais, wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad eithriadol i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel yn ei rôl ac mae ei brwdfrydedd, ei hymagwedd empathig a’i gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol wedi cael ei gydnabod fel rhywbeth rhagorol gan y bwrdd diogelu.

Dywedodd David Jones, Rheolwr Tîm Cymorth a Chyrhaeddiad: “Mae gan ‘Miss Becs’ y gallu naturiol i greu amgylcheddau cadarnhaol a lle diogel i blant a phobl ifanc. Mae hi'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl i wrando a chwrdd ag anghenion unigol i sicrhau bod ganddynt lais ac yn eirioli ar eu rhan pan fo angen. Mae’r wobr hon yn amlygu’r gwaith rhagorol y mae’n ei wneud nad yw’n cael ei weld weithiau gan lawer ac rwyf mor falch bod ei hymdrechion a’i hymrwymiad i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel wedi’u cydnabod.”

Dywedodd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes: “Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn gydnabyddiaeth i Rebecca sy’n cefnogi cymaint o blant a phobl ifanc gyda rheoleiddio emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiad a datblygiad personol mewn amrywiaeth o leoliadau. Rwy’n llongyfarch gwaith caled Rebecca a’r tîm Cymorth a Chyrhaeddiad sy’n cael eu cydnabod drwy ennill y wobr hon ac, ar ran y Cyngor, rydym yn falch bod eich holl waith caled wedi’i gydnabod.”

Da iawn Rebecca, enillydd haeddiannol iawn.

21/06/2023