Cafodd Cara Jones, Gweithiwraig Ieuenctid o Geredigion ei dewis i gynrychioli Cymru yn y 31ain Rhaglen Arweinyddiaeth Ryngwladol ar gyfer Gwaith Ieuenctid Gwledig yn Herrsching, yr Almaen. Teithiodd Cara i'r Almaen ym mis Awst 2023 a threuliodd bythefnos gyda 77 o Weithwyr Ieuenctid ac Arweinwyr eraill o 46 gwlad gwahanol yn Nhŷ Amaethyddiaeth Bafaria, sefydliad addysgol Cymdeithas Ffermwyr Bafaria, yn Herrsching ar Lyn Ammersee.

Mae’r rhaglen yn cael ei threfnu a’i hariannu gan Weinyddiaeth Bwyd ac Amaethyddiaeth Ffederal yr Almaen (BMEL) a’i harwyddair ar gyfer Rhaglen Arweinyddiaeth Ryngwladol eleni oedd “Meddwl yn fyd-eang – Dewch at eich gilydd a gweithredwch yn lleol”.

Croesawyd y cyfranogwyr gan Lywydd yr Asiantaeth Ffederal Amaethyddiaeth a Bwyd, Dr Margareta Büning-Fesel, ac arweinydd y seminar, Mr Gunther Strobl, Cyfarwyddwr Tŷ Amaethyddiaeth Bafaria fel sefydliad addysgol Cymdeithas Ffermwyr Bafaria. Treulwyd bythefnos yn dysgu, rhannu a chynllunio.

Dywedodd Cara Jones, Gweithiwraig Ieuenctid, “Roedd y Rhaglen Arweinyddiaeth Ryngwladol ar gyfer Gwaith Ieuenctid Gwledig yn brofiad gwych ac yn gyfle hynod fuddiol. Dysgon ni am arweinyddiaeth a chymhelliant, datrys problemau, gwaith tîm, creadigrwydd a chyfathrebu. Dysgon hefyd am ddiwylliannau a thraddodiadau gwahanol, a llawer o’r un heriau sy’n ein hwynebu ni i gyd yn ein gwledydd cartref. Cefais gyfle i gynllunio a chyflwyno sesiwn i dros 60 o gyfranogwyr, ac rwyf nawr yn gallu dychwelyd a defnyddio fy sgiliau a’r profiad newydd yma yn fy ngwaith yng Ngheredigion. Ymwelon ni â Gwersyll Crynhoi Dachau, Palas Nymphenburg a mynd i'r Alpau! Roedd yn anhygoel cwrdd â chymaint o bobl o bob rhan o’r byd a gweld sut maen nhw i gyd yn gweithio gyda phobl ifanc.”

Dywedodd Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gydol Oes a Llesiant, “Rydym wedi bod yn ffodus i elwa o’r cyfle hwn a ariannwyd gan BMEL, sydd wedi galluogi un o Weithwyr Ieuenctid Ceredigion i brofi rhywbeth hollol newydd a gwerth chweil. Roedd Cara yn llwyddiannus yn ei chais i dderbyn lle ar y rhaglen ac roedd wedi cyfarfod a dysgu oddi wrth Arweinwyr Ieuenctid eraill o bob rhan o’r byd, yn ogystal â rhannu diwylliant a thraddodiadau Cymreig ag eraill.”

08/09/2023