Cafodd rhai o Deuloedd Maethu Ceredigion fwynhad wrth fynd ar daith cwch i weld dolffiniaid yng Ngheinewydd ddydd Sul, 25 Mehefin 2023.

Trefnwyd y daith gan Dîm Maethu Cymru Ceredigion yn rhan o raglen o weithgareddau misol a drefnwyd yn benodol ar gyfer Teuluoedd Maethu yng Ngheredigion.

Er bod rhai cymylau duon bygythiol wedi ymgasglu dros harbwr Ceinewydd, daliodd y glaw i ffwrdd a llwyddodd y teuluoedd i gadw’n sych. Gwelodd y grŵp, a oedd yn cynnwys gofalwyr maeth, eu plant a’r plant y maent yn gofalu amdanynt, wyth o ddolffiniaid yn ystod y daith awr o hyd.

Y syniad tu ôl i’r Gweithgareddau ar gyfer Teuluoedd Maethu yw darparu cyfle i’r teulu maethu cyfan gymryd rhan mewn gweithgaredd gyda’i gilydd a chydnabod y rôl amhrisiadwy y mae pob aelod o’r teulu yn ei chwarae wrth gefnogi plant bregus sy’n derbyn gofal.

Dywedodd Maureen Keane, gofalwr maeth yng Ngheredigion: “Fe wnaeth pob un ohonom fwynhau’r daith yn enwedig ein person ifanc gan nad oeddem wedi dweud wrthi ei bod yn dod. Dyma’r tro cyntaf iddi fynd ar gwch ac fe wnaeth hi fwynhau yn fawr iawn.”

Ychwanegodd Sandra Jones, Rheolwr Tîm Maethu Cymru Ceredigion: “Nid yn aml iawn y mae gweithgaredd yn cael ei drefnu ar gyfer y teulu maethu cyfan i gymryd rhan ynddo gyda’i gilydd. Rydym am gynnig cyfle i’n gofalwyr maeth, eu plant a’r plant y maent yn gofalu amdanynt i ddod ynghyd gyda theuluoedd maethu eraill yng Ngheredigion a chymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous trwy gydol y flwyddyn.”

Yn ogystal â’r daith ar gwch yng Ngheinewydd, bydd gan deuluoedd maethu Ceredigion gyfle i gymryd rhan mewn diwrnodau blasu byw yn y gwyllt a choetir, diwrnodau gweithgareddau awyr agored, sesiynau crefft ac amrywiaeth o weithgareddau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Lles Gydol Oes: “Hoffwn longyfarch Tîm Maethu Ceredigion am drefnu profiad mor arbennig i’n teuluoedd maethu. Mae yna bendant ymdeimlad o deulu yn y tîm hwn, ac os yw maethu yn rhywbeth rydych chi’n ei ystyried, byddwch yn cael eich cefnogi pob cam o’r ffordd.”

A allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn? A ydych chi erioed wedi ystyried maethu? Os oes gennych ystafell sbar, yna gallai maethu fod yn rhywbeth i chi.

Mae yna nifer o fathau gwahanol o faethu, o ddarparu cartref hirdymor i gynnig un penwythnos y mis yn unig i gefnogi plentyn mewn angen. Bydd Tîm Maethu Cymru Ceredigion wrth law i’ch cefnogi trwy bob cam o’ch siwrne maethu.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn ofalwr maeth yng Ngheredigion, ewch i wefan Maethu Cymru neu cysylltwch â Thîm Maethu Ceredigion ar 01545 574000 neu anfonwch e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

05/07/2023