Mae’r Nadolig ar y gorwel a’r nosweithiau’n tywyllu’n gynnar, y dail yn disgyn oddi ar y coed a’r gôt fawr yn dod mas o’r cwpwrdd! Ond, yn Theatr Felinfach y Rhagfyr hwn mae cyfle i chi eistedd nôl a mwynhau hud a lledrith y Pantomeim Nadolig eleni gyda digon o chwerthin, cerddoriaeth a dwli.
Ond beth fydd ar y gweill gyda cymeriadau’r Panto megis Deiana Ie-Na-Na, PC Wpsi Deisi, Mami, Gafyn y Gofalwr eleni? A fydd modd ennill yn erbyn y Dynion Drwg drygionus?
“Iechyd bro ac iechyd da, Betsi Cadwaladr a Hywel Dda,
Meddygon Myddfai... beth yn y byd sydd a wnelo’r rhain a’n Panto ni gyd?
Ar ben-blwydd y GIG rhaid diolch a bloeddio,
Ac atal drygioni a phreifateiddio!”
Mae criw Dyffryn Aeron yn ceisio nodi a dathlu penblwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 75. Ond caiff y criw eu herio gan ddrygioni, cynllwynio a deallusrwydd artiffisial.... ac ambell i daten!
Dewch i Theatr Felinfach i fwynhau carnifal o banto ac i gychwyn eich dathliadau Nadolig. Cynhelir y pantomeimiau ar y dyddiadau canlynol:
- 09 Rhagfyr am 4yp
- 11-15 Rhagfyr am 7:30yh
- 16 Rhagfyr am 1yp, 4yp a 7:30yh
Prisiau’r tocynnau yw £10, £8, £6. Bydd gofalwyr yng Ngheredigion yn derbyn gostyngiad o 10% ar docynnau a gall prynwyr tocynnau gael un tocyn am ddim i bob 10 a brynir (hyd at bedair gwaith).
Am ragor o wybodaeth ac am docynnau ewch ar wefan Theatr Felinfach theatrfelinfach.cymru neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 / theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk rhwng 9:30-16:30 dydd Llun i ddydd Gwener.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Theatr Felinfach, dilynwch y theatr ar y Cyfryngau Cymdeithasol ar @TheatrFelinfach; Facebook, YouTube, X (Trydar) ac Instagram.
23/11/2023