Mae cronfa newydd sbon wedi lansio i gefnogi unigolion, busnesau a chymunedau i ddarparu atebion cynaliadwy ac arloesol i fynd i’r afael â rhai o heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu ardaloedd gwledig Ceredigion.

Agorwyd y gronfa ddydd Iau, 28 Medi 2023.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn cael ei darparu gan Cynnal y Cardi, cynllun a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion i gyflawni gweithgarwch ar draws dwy flaenoriaeth buddsoddi yng Ngheredigion: Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi ar gyfer Datblygu Cymunedol a Chronfa Gymorth Cynnal y Cardi i fusnesau.

O fewn y blaenoriaethau buddsoddi, mae yna flaenoriaethau lleol sy’n allweddol (cyfeirir atynt fel ymyriadau) wedi’u nodi. Amlinellir y rhain yng Nghynllun Buddsoddi Rhanbarthol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig – Canolbarth Cymru, ynghyd a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r rhanbarth a’r allbynnau a’r canlyniadau cysylltiedig er mwyn i Lywodraeth Cymru cydnabod prosiectau i’w cyflawni.

Cynlluniwyd Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi ar gyfer Datblygu Cymunedol i ddarparu cyfleoedd i sefydliadau ddarparu gwasanaethau neu weithio gyda chymunedau gwledig i dreialu ffyrdd newydd o weithio neu syniadau sy’n mynd i’r afael â materion sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau allweddol; cryfhau a chefnogi cymunedau lleol, meithrin balchder wrth gefnogi’r economi leol, creu mannau gwyrdd diogel, a chymdogaeth economaidd wydn, iach a bywiog.

Gall y mesurau hyn gael eu dehongli mewn sawl ffordd; gwelliannau i safleoedd ac ardaloedd presennol, newid yn yr hinsawdd, profiad ymwelwyr, defnydd o’r sector diwydiannau creadigol, astudiaethau dichonoldeb, cynllunio olyniaeth, mesurau cymunedol i frwydro yn erbyn costau byw a gwella seilwaith o fewn cymunedau lleol.

  1. Cynllun grantiau llwybr cyflym bach £1,000-£10,000
  2. Grant mwy £10,001-£50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynny’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)

Cynlluniwyd Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi i fusnesau Ceredigion i hybu ein heconomi leol drwy gefnogi busnesau newydd a phresennol; darparu cymorth gyda mannau gwyrddach, gan leihau ein hôl troed carbon drwy ddatgarboneiddio, effeithlonrwydd ynni a chymorth digidol.

Canolbwyntia’r gronfa ar weithgarwch entrepreneuriaeth, cymorth i fusnesau newydd a datblygu twf i ysgogi arloesedd ac ennill sgiliau er mwyn creu’r amodau i greu swyddi o werth uwch yn yr economi. Mae’n cynnwys cefnogaeth i ddyrchafu ac ecsbloetio elfennau digidol o fewn y sector, gwaith dichonoldeb, cyllid ar gyfer comisiynu strategol a chreu hybiau o fewn ein cymunedau i alluogi perchnogion busnes i rannu arfer da a chydweithio.

  1. Grantiau busnes bach £1,000-£10,000
  2. Grantiau datblygu busnes £10,001-£50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynny’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Byddem yn annog unrhyw grŵp neu fusnes lleol sydd am wneud gwahaniaeth i’w cymuned i wneud cais am Gronfa Cynnal y Cardi. Mae’r cyfleoedd ariannu hyn yn cefnogi ein blaenoriaethau corfforaethol i hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth ynghyd â chryfhau gwytnwch ein cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy, gwyrdd gyda chysylltiadau da.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11:59pm dydd Mawrth, 31 Hydref 2023.

I ddysgu mwy am sut i wneud cais ewch i’n gwefan: Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cynnal y Cardi 

I gael rhagor o wybodaeth am y manylion pwysig y dylai sefydliadau feddwl amdanynt cyn gwneud cais, ewch i wefan Tyfu Canolbarth Cymru.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk

 

29/09/2023