Gwahoddir cymuned Ceinewydd i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar gyfer datblygu safle'r Hen Lyfrgell a'r Ystafell Ddarllen at ddibenion addysgol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 27 Chwefror a 07 Mai eleni yn gofyn i'r cyhoedd a oeddent yn cytuno â phwrpas newydd arfaethedig yr hen Lyfrgell a'r Ystafell Ddarllen yng Ngheinewydd i 'hyrwyddo addysg trigolion Ceinewydd'. Hysbyswyd y Cylch Meithrin, Cyngor Tref, Ysgol Gynradd, Clwb Pêl-droed, Neuadd Goffa, Llyfrgell Gymunedol a phartneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd am yr ymgynghoriad.

Bu'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Nodwyd bod llawer o themâu yn cael eu cyflwyno mewn ymateb i'r ymgynghoriad, fodd bynnag, nid oedd niferoedd uchel o ran unrhyw un thema, ac roedd nifer o'r ymatebion ddim yn disgyn o fewn y diben addysgol. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r ymatebion yn awgrymu bod y cyhoedd yn dymuno i'r safle gael ei ddefnyddio.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i'r ymgynghoriad. Mae'n bwysig bod barn y gymuned leol wrth wraidd unrhyw benderfyniad sy'n effeithio arnynt. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn neu grŵp cymunedol ddatblygu'r hen Lyfrgell ac Ystafell Ddarllen yng Ngheinewydd at ddibenion addysgol, ac edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau o'r fath."

Ystyriodd y Pwyllgor gyflwr yr adeilad, sydd angen buddsoddiad sylweddol i sicrhau bod y cyflwr yn addas. Nodwyd nad yw'r arian a ddelir gan yr Ymddiriedolaeth yn ddigonol i dalu am y gwaith hwn. Felly, argymhellwyd bod y Pwyllgor yn ymgynghori â chymuned Ceinewydd ynghylch a fyddai unigolyn neu sefydliad â diddordeb mewn ymgymryd â'r safle ar sail prydles at ddiben addysgol, gan geisio cyllid grant i gyflawni'r gwaith yn ôl yr angen.

Os oes gennych chi ddiddordeb i ymgymryd â’r safle at ddiben addysgol, cysylltwch â Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk cyn 10 Awst 2023, gan nodi “Datganiad o ddiddordeb: Ceinewydd”.

10/07/2023