Gofynnir am farn trigolion am y newidiadau arfaethedig i leoliadau gorsafoedd pleidleisio yn y sir.
Mae dyletswydd ar Gyngor Sir Ceredigion i adolygu ei ddosbarthiadau etholiadol a’i fannau pleidleisio ar gyfer etholaethau seneddol y DU o leiaf bob 5 mlynedd.
Mae newidiadau yn cael eu cynnig ar gyfer sawl lleoliad gorsaf pleidleisio fel rhan o’r adolygiad.
Gwnaed y cynigion yn seiliedig ar nifer o ffactorau, sef:
- Y Dosbarth Etholiadol;
- Gofynion Hygyrchedd (yn unol â Deddf Etholiadau 2022);
- Nifer yr etholwyr a’r nifer sy’n pleidleisio drwy’r post, sy’n cynyddu bob blwyddyn;
- Mannau Pleidleisio a’r Gorsafoedd Pleidleisio eraill sydd ar gael o fewn y Dosbarth Etholiadol neu gerllaw.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Er bod hwn yn ofyniad statudol, rydym am sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio o amgylch y sir yn hygyrch ac yn addas i'r diben i alluogi etholwyr i bleidleisio yn bersonol. Hoffem glywed eich barn fel rhan o'r ymgynghoriad."
Gall trigolion ddweud eu dweud o 2 Hydref tan 10 Tachwedd 2023.
Gellir cyflwyno sylwadau ar-lein, drwy’r post ac e-bost. Gellir casglu copïau papur o lyfrgelloedd Ceredigion neu drwy gysylltu â 01545 572032 neu e-bostio gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk
Mae fformatau eraill gan gynnwys Hawdd i’w Ddarllen a phrint bras hefyd ar gael.
I gwblhau’r ymgynghoriad ar lein ac am ragor o wybodaeth, ewch i www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/adolygiad-o-ddosbarthiadau-etholiadol-mannau-pleidleisio-a-gorsafoedd-pleidleisio/
Credyd llun: Chris Loades
02/10/2023