Mae ffermwr o Geredigion a anwybyddodd ofynion i reoli lledaeniad TB buchol, ac a wnaeth hefyd rwystro swyddogion awdurdodedig, wedi cael cyfanswm dirwy o £9,000 ar ôl pledio’n euog i gyhuddiadau a gyflwynwyd o dan Reoliadau Twbercwlosis (TB) Buchol.

Ymddangosodd Mr Anthony Brunt o Fferm Coybal, Ceinewydd o flaen y Barnwr Mark Layton yn Llys yr Ynadon Llanelli i'w ddedfrydu ar 14 Medi 2023, ar ôl pledio’n euog yn flaenorol i dair trosedd o dan Orchymyn Twbercwlosis Cymru (2010), a hynny mewn erlyniad a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Nododd brawf TB arferol, a gynhaliwyd ym mis Awst 2021, fod naw o wartheg ym muches laeth Mr Brunt wedi’u nodi fel adweithyddion amhendant am yr eildro. Cyflwynwyd hysbysiadau i Mr Brunt gan yr APHA ym mis Medi 2021 i ynysu’r anifeiliaid hynny er mwyn atal y risg o drosglwyddo TB ymhellach, ac i’w cyflwyno i'w lladd yn orfodol.

Oherwydd problemau parhaus yn ymwneud â rhwystro, roedd angen i Swyddogion o’r APHA wneud cais am warrant llys i fynd i Fferm Coybal i orfodi gofynion yr hysbysiad, yn ogystal â swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion a oedd â chyfrifoldeb gorfodi o dan yr amgylchiadau hyn. Wrth weithredu’r warant ar 10 Tachwedd 2021, nododd swyddogion yn syth fethiant i ynysu’r anifeiliaid yr amheuwyd iddynt gael eu heintio oddi wrth weddill y fuches. Cafwyd hyd i'r naw o wartheg yn gymysg â’r gwartheg iach eraill ar y fferm, a oedd yn cynyddu eu risg o ddal y clefyd.

At hyn, rhwystrodd Mr Brunt swyddogion yn ystod y warant trwy osod cerbydau fferm o flaen mynedfeydd buarth y fferm a’r caeau pori mewn ymgais i'w hatal rhag ymgymryd â’u gwaith. Methodd Mr Brunt gydweithredu â’r swyddogion ar y diwrnod hefyd trwy wrthod ymateb i gwestiynau syml am ble roedd yr anifeiliaid yn cael eu cadw, na chaniatáu defnyddio cyfleusterau’r fferm i symud y gwartheg.

Nid yn unig yr achosodd gweithredoedd Mr Brunt risg gynyddol o’r clefyd ymysg ei wartheg iach ei hun, ond hefyd ymysg gwartheg ar ffermydd cyfagos yn ardal Ceinewydd, sydd wedi’i ddynodi yn ardal Risg Uchel yn unol â Chyfradd Risg Rhanbarthol TB Buchol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r Cyngor yn cydnabod bod TB Buchol yn cael effaith ariannol ac emosiynol sylweddol ar deuluoedd fferm ar hyd a lled Ceredigion. Fodd bynnag, mae’n rhaid i'r Cyngor weithredu pa fo achosion amlwg o dorri rheoliadau TB, a allai gael effaith ehangach ar ardaloedd cyfagos a gwaethygu’r broblem o TB buchol.”

Aethpwyd i gostau gorfodi a chyfreithiol gan yr Awdurdod Lleol a'r AHPA, lle dyfarnwyd £9,000, gan adael cyfanswm bil Mr Brunt yn £18,900 gan gynnwys gordal o £190.

20/09/2023