Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Ceredigion ar 07 Gorffennaf 2023 i ddathlu doniau chwaraeon y sir.

Mae’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion mewn partneriaeth â Ceredigion Actif, yn dod â phopeth sy’n dda am chwaraeon yng Ngheredigion at ei gilydd ac yn rhoi llwyfan i ddathlu llwyddiannau chwaraeon a’r bobl sy’n gwneud iddynt ddigwydd.

Cynhaliwyd y gwobrau yn Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa a chyflwynwyd cyfanswm o 58 o wobrau eleni, ar draws 7 categori gwahanol. Roedd y rhain yn cynnwys 22 o wobrau ieuenctid talentog, a roddwyd i athletwyr ifanc a mabolgampwyr yng Ngheredigion sy’n dangos addewid, a 30 o Wobrau Rhyngwladol, a roddwyd i chwaraewyr a ddaeth yn athletwyr rhyngwladol rhwng 2020 a 2023.

Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn ceisio helpu pob clwb chwaraeon o lefel llawr gwlad i uchafbwynt eu cyflawniad fel athletwyr rhyngwladol, yn ogystal â chydnabod rôl Llysgenhadon Ifanc o fewn y system ysgolion, a’r gwirfoddolwyr a’r hyfforddwyr sy’n aml yn gweithredu y tu ôl i’r llenni.

Y gwobrau a’r enillwyr yw:

  • Llysgennad Ifanc Efydd y Flwyddyn 2023: Ceri Williams, Daniel Jones, Isaac Humphries a Jac Lewis – Ysgol Gynradd Llanon
  • Llysgennad Ifanc y Flwyddyn 2023: Ben Jaques
  • Gwirfoddolwr/aig y Flwyddyn 2023: Alisha Aydogmus
  • Gwirfoddolwr/aig Chwaraeon Anabledd y Flwyddyn 2023: Dean James & Eiry Thomas
  • Gwobr Arwr/es Tawel 2023: Leo & Jane O’Connor
  • Hyfforddwr/aig y Flwyddyn 2023: Gareth Ebenezer

 

Gwobrau Rhyngwladol 2023:

Gwobrau Ieuenctid Talentog 2023

Osian Roberts – Athletau

Eva Davies – Athletau

Jean Davies – Bowlio lawnt

Sara Jones – Athletau

Milwen Lewis – Bowlio lawnt

Cari Morgan-Williams – Beicio Mynydd

Cynyr MacRae – Caiacio

Osian Jones – Bowlio

Deio Thomas – Caiacio

Eiri O'Connor – Caiacio

Hanna Griffiths – Caiacio

Gruffydd Phillips Williams – Caiacio

Leri Jones-Kenny – Caiacio Slalom

Aadvik Khare – Criced

Cari Jones – Caiacio Slalom

Sonny Baron – Criced

Brynmor Thomas – Dartiau

Bronwen Thomas – Hwylio

Elonwy Thomas – Dartiau

Steffan Williams – Hwylio

Llinos Thomas – Dartiau

Llyr Jones – Jiwdo

Sion Davies – Dartiau

Carys Pugh Jones – Pêl-droed

Dion Regan – Golff

Katie Whiteway – Pêl-droed

Leia Vobe – Gymnasteg

Sonny Forbes-Tinsley – Pêl-droed

Órla O’Regan – Hoci

Tomos Ifan Mitchell – Pysgota Plu

Ruadhán O’Regan – Hoci

Freya Pritchard – Rasio Rhwystrau

Annie Thomas – Marchogaeth

Will Evans – Rasio Autograss

Harry Thomas – Marchogaeth

Cian Jones – Rygbi

Casi Gregson – Pêl-droed

Max Rodda-Lodder – Rygbi

Kelsey Thomas – Pêl-droed

Owain Thomas – Rygbi

Fflur Mitchell – Pysgota Plu

Rhun Davies – Rygbi

Amelia Williams – Rhedeg

Teifi Thomas – Rygbi

Steffan Evans – Rygbi Cyffwrdd

 

Alfie Rodda-Lodder – Rygbi Cyffwrdd

 

Cadi-Lois Davies – Rygbi

 

Kristy Hopkins – Rygbi

 

Steffan Jac Jones – Rygbi

 

Lowri Richards – Seiclo Dan Do

 

Fin Tarling – Seiclo

 

Josh Tarling – Seiclo    

 

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Roedd y Gwobrau Chwaraeon yn ddigwyddiad gwych gyda chymaint o drigolion Ceredigion yn cael eu cydnabod am eu cyflawniadau chwaraeon. Roedd yn brynhawn ysbrydoledig ac yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gefnogi gweithgareddau a chyfleoedd chwaraeon ledled Ceredigion.”

Mae chwaraeon a bod yn gorfforol egnïol yn cael dylanwad cadarnhaol ar yr hen a'r ifanc ac mae'n rhan fawr o fywyd bob dydd Ceredigion. Hoffai'r Cyngor Chwaraeon longyfarch pawb sydd wedi cyflawni, waeth beth fo'r gamp neu lefel.

19/07/2023