Mae cymorth ariannol ar gael i adnewyddu tai gwag a’u gwneud yn addas i fyw ynddynt yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch i gyhoeddi y bydd yr awdurdod lleol yn cymryd rhan yng Nghynllun Grantiau Cartrefi Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Y Cynghorydd Matthew Vaux yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd. Croesawodd y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol gan ychwanegu: “Mae tua 800+ o eiddo gwag hirdymor yng Ngheredigion ar hyn o bryd, a hynny yn ystod cyfnod lle mae prinder yn y cyflenwad ar hyd a lled y sir. Yn aml, mae eiddo gwag yn ddrud i’w hadnewyddu ac yn cyfrannu at ddirywiad ardal, ond maent hefyd yn asedau cymunedol na chânt eu defnyddio’n ddigonol pan fo prinder tai.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi unigolion i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd er mwyn helpu i adfywio cymunedau a darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen ar gyfer unigolion ledled y sir.”

Mae grantiau o hyd at £25,000 ar gael i berchnogion tai neu ddarpar berchnogion tai i adnewyddu tai gwag a’u gwneud yn ddiogel i fyw ynddynt neu wella eu heffeithiolrwydd ynni.

I fod yn gymwys am y grant, bydd angen bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid i'r cartref gwag fod oddi mewn i ardal awdurdod lleol Ceredigion
  • Rhaid i'r cartref fod wedi’i gofrestru’n wag ar hyn o bryd gydag Adran Treth Cyngor yr awdurdod (heb ei feddiannu a heb ddodrefn) am o leiaf cyfnod o 12 mis.
  • Rhaid i'r ymgeiswyr fod yn berchnogion neu’n ddarpar berchnogion, sy’n bwriadu byw yn y cartref gwag fel eu prif a’u hunig breswylfa, am o leiaf 5 mlynedd.
  • Rhaid i'r perchnogion fodloni’r meini prawf Cysylltiad Lleol yng Ngheredigion.

Nodwch mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sy’n gweinyddu’r grantiau ar ran Llywodraeth Cymru a Cyngor Sir Ceredigion.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais, ewch i'n tudalen We: Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol Ceredigion neu ewch i'r brif wefan: Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol

Gallwch hefyd ffonio 01443 494712 neu anfon e-bost i EmptyHomesGrant@rctcbc.gov.uk

 

21/06/2023