Mae llawer o gynhyrchwyr bwyd Ceredigion wedi dod i'r brig gyda'u gradd sêr 1, 2 a 3 yng Ngwobrau ‘Great Taste’ 2023.

Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau ‘Great Taste’ ddydd Llun, 31 Gorffennaf, gyda mwy na 14,000 o gynhyrchion o 109 o wledydd yn cael eu hasesu.

Fe wnaeth cynhyrchwyr bwyd Ceredigion brofi eu bwyd a daeth pedwar ar hugain o fusnesau i'r brig – gan dderbyn naill ai 1, 2 neu 3 seren am eu cynnyrch.

Mae pymtheg o'r cynhyrchwyr bwyd hynny wedi derbyn cymorth technegol gan Ganolfan Bwyd Cymru, canolfan dechnoleg bwyd pwrpasol sy’n cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith.

Mae ‘Great Taste’ yn rhannu’r ymgeiswyr mewn i un, dau a thair seren, ble disgrifiwyd yr olaf fel 'rhagorol’ ac yn 'eithriadol o flasus'.

Cafodd Caws Teifi 3 seren am eu Gwyn Bach. Cawsant hefyd 2 seren ar gyfer Celtic Promise a 2 seren arall am eu Teifi Mature.

Enillodd Ceri Valley Orchards 2 seren ar gyfer eu finegr seidr Blackcurrant a derbyniodd Continental Drifter Mantle Brewery 2 seren.

Derbyniodd cynhyrchwyr bwyd Ceredigion gyfanswm o 19 o raddfeydd 1 seren. Mae'r canlyniadau llawn i'w gweld ar wefan ‘Great Taste Awards’: https://greattasteawards.co.uk/results

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: "Mae hyn yn newyddion gwych i'n cynhyrchwyr bwyd yma yng Ngheredigion. Mae'n wych gweld cymaint o gynnyrch o ansawdd yn cael eu cydnabod, ac mae llawer ohonynt wedi defnyddio cyfleusterau Canolfan Bwyd Cymru yn Horeb i ddatblygu a mireinio eu cynnyrch ar gyfer y farchnad ddefnyddwyr. Llongyfarchiadau i bawb a enillodd y gydnabyddiaeth hon ac i fusnesau bwyd sydd angen datblygu eu cynnyrch, cysylltwch â Chanolfan Bwyd Cymru."

Gall cynhyrchwyr bwyd a hoffai dderbyn gwybodaeth fynd i wefan Canolfan Bwyd Cymru: https://foodcentrewales.org.uk/hafan/

09/08/2023