Mae gan Geredigion Strategaeth Dai newydd ar gyfer 2023-2028 ar ôl i Strategaeth ‘Tai i Bawb’ gael ei chymeradwyo yn ystod cyfarfod o’r Cyngor llawn ar 26 Hydref 2023.

Diben y Strategaeth Dai Leol yw amlinellu gweledigaeth glir ar gyfer tai yn y sir a phennu blaenoriaethau sy’n nodi ac yn ymateb i’r heriau sydd o’n blaenau. Bydd y darlun cenedlaethol o ddirwasgiad economaidd, newidiadau deddfwriaethol a’r gwaith o adfer yn dilyn pandemig Covid-19 oll yn chwarae eu rhan wrth lywio’r materion lleol sy’n cael effaith ar Geredigion.

Gweledigaeth y Strategaeth yw gweithio tuag at lety digonol, addas a chynaliadwy i fodloni anghenion trigolion y sir yn awr ac yn y dyfodol. Mae’n nodi’r blaenoriaethau i gyflawni hyn o ran “Cynyddu’r cyflenwad tai a gwella cyflwr tai” a hefyd “Cefnogi trigolion yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain”.

Mae'r Strategaeth yn cydnabod rôl bwysig tai a’r modd y mae’r maes yn effeithio ar iechyd a lles unigolion, teuluoedd, a'r gymuned yn ehangach. Mae’r Strategaeth yn parhau i fod yn ystyriol o'r Gymraeg a’r diwylliant. Mae’n bwysig ein bod ni’n deall ac yn ystyried gofynion cenedlaethau’r dyfodol, eu hanghenion a’u dewisiadau, a sut i ddarparu ar eu cyfer. Mae angen tai arnom y gellir eu haddasu ac sy’n gallu cynnal pobl ar wahanol adegau yn ystod eu bywydau. Bydd hyn o gymorth i sicrhau poblogaeth iachach, ar y cyd â defnyddio’r stoc dai bresennol yn well, a gwella safonau ac amodau byw. Mae angen i ni ddarparu tai o ansawdd da mewn mannau addas a fydd yn ei gwneud hi'n bosib i bobl fyw gartref am yn hirach, gyda'r posibilrwydd o greu cymunedau mwy gwydn a chysylltiedig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am faes Tai, y Cynghorydd Matthew Vaux: “Mae pandemig Covid-19 wedi gorfodi newidiadau a heriau na welwyd mo’u tebyg o'r blaen. Mae tai yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod ein trigolion a'n cymunedau yn cael cyfle i lwyddo yn wyneb yr heriau sydd o'n blaenau. Nod y Strategaeth hon yw mynd i’r afael â’r heriau hyn a chymryd y cyfleoedd sydd ar gael i ni, a hynny drwy gydweithio gyda thrigolion a’n partneriaid.”

Gellir gweld y Strategaeth ar wefan y Cyngor fan hyn: Strategaeth Dai

03/11/2023