Cyhoeddwyd enillwyr lleoliadau blynyddoedd cynnar Cymru y Mudiad Meithrin eleni mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 14 Hydref.

Bwriad y seremoni yw cydnabod a dathlu’r gwaith da sy’n cael ei wneud ar lawr gwlad yn y cylchoedd a’r meithrinfeydd dydd. Cyflwynwyd y seremoni gan Melanie Owen a phrif noddwr y seremoni eleni oedd cwmni Portal.

Daeth Ceredigion i’r brig wrth ennill nifer o wobrau, gan gynnwys:

  • Cylch i bawb – Cylch Meithrin Penparc
  • Cynorthwyydd, Siobhan Durber – Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid
  • Arweinydd, Gwen Davies – Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid
  • Cylch Meithrin Cymru – Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: “Mae'r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle inni ddod at ein gilydd i ddathlu, cydnabod a diolch i'n staff a'n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad am yr holl waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru. Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru.”

Y Cynghorydd Wyn Thomas yw'r Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: "Llongyfarchiadau i'r holl leoliadau blynyddoedd cynnar sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn y seremoni wobrwyo eleni. Mae'n gyflawniad gwych a dylai'r holl staff fod yn falch o'u gwaith caled. Mae rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i'n plant ieuengaf yng Ngheredigion a'r cyfle i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol yn hanfodol. Llongyfarchiadau i chi gyd."

Ewch i https://meithrin.cymru/news/canlyniadau-seremoni-gwobrau-2023/ i weld y canlyniadau llawn.

13/11/2023