Mae cynllun ar-lein sy’n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a dod yn Llysgennad yn ystod Wythnos gyntaf Llysgenhadon Cymru rhwng 20 a 26 Tachwedd.

Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru ar gael i bawb ac mae’n ffordd wych o ddysgu mwy am nodweddion unigryw pob lle. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o themâu. Mae hyn yn cynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirluniau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae 3 lefel o wobrau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau sy’n cael eu cwblhau. Anfonir gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau i bawb sy’n cwblhau’r lefelau. 

Ardal Ceredigion yw’r diweddaraf i gynnig cwrs rhad ac am ddim, gan ymuno â Pharciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir y Fflint, Wrecsam, a Sir Gâr. Mae Llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer amrywiol gyrsiau i ddysgu mwy am Gymru a bod yn rhan o gymuned ehangach. Mae’r cwrs ar gael ar-lein, a gellir ei ddilyn gam wrth gam yn hamddenol. Mae chwe modiwl ar gael ar gyfer Ceredigion ar hyn o bryd – cyflwyniad i’r sir a’i diwydiant twristiaeth, Iaith a diwylliant Cymraeg, Bae Ceredigion, Mynyddoedd Cambria, Aberystwyth ac Aberteifi – digon i gyrraedd lefel Arian, ac mae mwy o fodiwlau ar y gweill, er mwyn cynnig dewis i rheiny sydd am gyrraedd lefel Aur.

Nod Wythnos Llysgehadon Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad ac annog eraill i ymuno. Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn ystod yr wythnos, gan gynnwys digwyddiad ar-lein yn benodol ar gyfer Llysgenhadon – bydd siaradwyr o Croeso Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri yn trafod prosiect di-blastig Yr Wyddfa. Bydd Cymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru hefyd yn bresennol ac yn esbonio sut i ddod yn Dywysydd Twristiaeth Cymru.

Ymhlith y gweithgareddau eraill bydd noson o dan y sêr i ddysgu am yr enwau Cymraeg a'r fytholeg y tu ôl i'r cytserau – rhywbeth sy’n denu pobl i ymweld ac aros dros nos mewn ardaloedd fel Mynyddoedd Cambria, sy’n enwog am wybren dywyll syfrdanol gydol y flwyddyn; sesiwn ryngweithiol ar sut i ddefnyddio ffonau clyfar i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol a digwyddiad rhwydweithio cyflym i edrych sut y gall busnesau gydweithio.

Ar hyn o bryd mae dros 3,750 o bobl wedi cofrestru gyda dros 2,700 o bobl yn cyrraedd lefel efydd, nid yn unig o Gymru ond o bob rhan o’r DU a thu hwnt. Dyfarnwyd 6,243 o fathodynnau efydd, arian ac aur gyda thua dwy ran o dair o’r cyflawnwyr efydd yn mynd ymlaen i gyflawni aur. Mae 15-20% o ddefnyddwyr yn cofrestru ar fwy nag un cwrs.

Mae’r Llysgennad, Tony Vitti wedi cwblhau’r holl gyrsiau i lefel aur. Dywedodd: “Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn hynod ddefnyddiol i mi yn fy ngwaith gan ei fod wedi rhoi cyfle i mi ddysgu am rannau o’r ardal nad oeddwn i wedi’u darganfod o’r blaen a gallu rhannu’r wybodaeth honno gyda’n cwsmeriaid. Mae’n amhrisiadwy pan fyddwn ni’n gwybod bod ardal benodol yn brysur a’n bod ni’n gallu awgrymu “perlau cudd” fel dewis amgen. Mae pobl wedi dod yn ôl atom i ddweud eu bod nhw wedi darganfod lle hyfryd oherwydd ein bod wedi gallu rhannu’r wybodaeth hon gyda nhw.

Fel rhywun sy’n hoffi crwydro, rydw i wedi elwa’n bersonol o bob un o’r cyrsiau. Maen nhw wedi mynd â fi i lefydd hardd ac atyniadau diddorol ac mae gen i wybodaeth well am y lleoedd hyn nag oedd gen i cyn dilyn y cyrsiau. Rydw i’n edrych ymlaen at fodiwlau newydd!”

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Byddwn yn annog unrhyw un i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Gwn fod ymwelwyr nid yn unig yn holi ein gwasanaeth twristiaeth am syniadau am lefydd i ymweld â nhw ond hefyd yn hoffi holi pobl leol mewn siopau, caffis  llety a thararnau’r sir am eu barn. Mae’r cwrs yma’n ffordd hwylus a hawdd i helpu staff i ddysgu a rhannu gwybodaeth yn hyderus am wahanol ardaloedd ac atyniadau’r sir, a thrwy hynny’n cryfhau gofal cwsmer y busnes. Dwi’n siŵr bydd trigolion Ceredigion yn elwa o’r cwrs yma hefyd ac yn cael syniadau am rannau o’r sir maent yn llai cyfarwydd â nhw.”

Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn noddi Gwobr Sgiliau ym Maes Twristiaeth a Lletygarwch yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales ar 23 Tachwedd. Enillodd y cynllun y wobr hon y llynedd.

I gael mwy o wybodaeth am Wythnos Llysgenhadon Cymru ac i gofrestru, ewch i wefan Llysgennad Cymru 

20/11/2023