Am y tro cyntaf mewn hanes, mae polisi menopos wedi cael ei gefnogi gan Gynghorwyr i’w roi ar waith ledled Cyngor Sir Ceredigion.

Mae Polisi Menopos y Cyngor wedi cael ei ddatblygu i helpu’r rheiny sy’n profi symptomau menopos trafferthus, ac i’w cefnogi nhw, eu cyd-weithwyr a rheolwyr i fynd i’r afael ag agweddau galwedigaethol symptomau’r menopos.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet ar gyfer Pobl a Threfniadaeth: “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cynhwysol a chefnogol, lle caiff pawb eu trin yn deg a gyda pharch ac urddas yn eu hamgylchedd gwaith. Mae hefyd wedi ymrwymo i iechyd, diogelwch a lles y gweithlu cyfan.

“Nid yw’r menopos bob amser yn gyfnod pontio hawdd ond gyda’r cymorth cywir gall fod yn llawer gwell. Er nad yw pawb sy’n mynd trwy’r menopos yn dioddef symptomau, bydd cefnogi’r rheiny sydd yn eu profi yn gwella eu profiad yn y gwaith. Gobeithir cynnal gweithdy i’r Aelodau Etholedig ar y mater ac fel Cyngor byddwn hefyd yn cydnabod Diwrnod Menopos y Byd ym mis Hydref.”

Amcangyfrifir bod tua 1 o bob 3 o bobl yn y DU naill ai’n mynd drwy’r menopos ar hyn o bryd neu wedi ei gyrraedd. Mae data Cyngor Sir Ceredigion ym mis Hydref 2022 yn cofnodi bod y gweithlu corfforaethol (ac eithrio ysgolion) yn 66.1% (1,355) o fenywod, gyda 34.1% (698) rhwng 45 a 64 oed ac y gallent fod mewn oedran lle mae’n debygol y byddent yn profi’r perimenopos neu wedi cyrraedd y menopos. O ganlyniad, mae’n bwysig bod anghenion y grŵp hwn yn cael eu hystyried a bod gweithlu amrywiol o ran oedran yn cael eu rheoli’n rhagweithiol.

Bydd Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth y Cyngor hefyd yn darparu cymorth pellach i’r rheiny sy’n profi symptomau’r menopos trwy gynnig caffi menopos lle gall gweithwyr gwrdd a chael cefnogaeth a gwybodaeth, ynghyd â chynnal sesiynau hyfforddiant ar y menopos i reolwyr.

05/09/2023