Cynhaliwyd digwyddiad yn ddiweddar i lansio pecyn newydd ar gyfer staff addysgol i helpu i godi ymwybyddiaeth o radicaleiddio eithafol yn ardal Dyfed-Powys.

Cafodd Prosiect Atal Radicaleiddio ei chreu gan Odd Arts, cwmni cynyrchiadau theatr arbenigol, a’i gyflwyno ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan ar 19 Hydref 2023.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys gweithdy, pecyn cymorth a fideo ac roedd wedi’i anelu at y rheiny sy’n gweithio gydag oedolion a phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd mewn lleoliad addysg, addysg bellach neu brifysgol. Daeth i’r amlwg bod y grŵp oedran hwn yn fwy tueddol o cael ei radicaleiddio.

Roedd cynrychiolwyr o wasanaethau ieuenctid, ysgolion uwchradd a Phrifysgolion y rhanbarth yn bresennol. Roedd y gweithdy’n cynnwys perfformiad theatr byw er mwyn hwyluso sgyrsiau anodd – mewn amgylchedd diogel – lle gallai’r mynychwyr drafod yn agored ffyrdd o atal radicaleiddio.  

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Roedd y digwyddiad Atal Radicaleiddio yn llwyddiant o ran hybu dealltwriaeth o’r pwnc a hefyd grymuso pobl i ddysgu sgiliau cyfathrebu er mwyn cynnal sgyrsiau anodd ynglŷn ag eithafiaeth casineb. Mae’n bwysig fod gweithdai fel y rhain yn cael eu cynnal i roi dulliau a thechnegau i’r rhai sy’n cymryd rhan, a hynny i gefnogi pobl sydd mewn peryg o gael eu radicaleiddio ac i atal y risg y bydd pobl yn cael eu hecsbloetio.”

Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi’r digwyddiad a llwyddon nhw i dderbyn grant gan y Swyddfa Gartref i greu a chyflwyno’r prosiect Atal Radicaleiddio yn ardal Dyfed-Powys.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ar ein gwefan.

02/11/2023