Gallwch nawr ddewis o blith 112 o fannau gwefru ledled Ceredigion i wefru eich cerbyd trydan.

Darperir 76 o’r rhain gan Gyngor Sir Ceredigion mewn 18 o leoliadau gwahanol, gan gynnwys meysydd parcio’r Cyngor.

Yn dilyn cyflwyno dau gam o osodiadau seilwaith cerbydau trydan yn llwyddiannus ym meysydd parcio Cyngor Sir Ceredigion, mae gan y sir bellach y nifer uchaf o fannau gwefru cerbydau trydan i'r cyhoedd eu defnyddio fesul 100,000 o’r boblogaeth ledled Cymru gyfan.

Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023, mae gan Geredigion 158.5 o bwyntiau gwefru fesul 100,000 o’r boblogaeth o gymharu â chyfartaledd Cymru o 60.7. Darllenwch adroddiad Llywodraeth Cymru ar wefan Llywodraeth y DU: Ystadegau mannau gwefru cerbydau trydan 

Mae’r pwyntiau gwefru yma ar gael yn gyhoeddus i drigolion ac ymwelwyr â Cheredigion eu defnyddio, ac maent wedi’u lleoli yn y lleoliadau canlynol:

Lleoliad

Tref

Nifer o fannau gwefru

Canolfan Hamdden Aberaeron

Aberaeron

2

Maes Parcio Swyddfeydd Penmorfa

Aberaeron

4

Maes Parcio Ffordd y Gaer (‘Crossville’)

Aberaeron

4

Glan y Môr, Traeth y Gogledd

Aberaeron

4

Maes Parcio Coedlan y Parc

Aberystwyth

6

Canolfan Hamdden Plascrug

Aberystwyth

4

Maes Parcio Swyddfeydd Canolfan Rheidol

Aberystwyth

4

Maes Parcio Ffordd y Gogledd

Aberystwyth

4

Neuadd Gymunedol

Borth

2

Maes Parcio Sgwâr Cae Glas

Aberteifi

2

Canolfan Hamdden Aberteifi, Ffordd y Gogedd 

Aberteifi

4

Feidr Fair

Aberteifi

6

Maes Parcio Cwmins

Llanbedr Pont Steffan

8

Maes Parcio Rookery

Llanbedr Pont Steffan

6

Maes Parcio Llandysul

Llandysul

4

Maes Parcio Ffordd yr Eglwys

Ceinewydd

4

Maes Parcio Stryd y Cware (‘Paragon’)

Ceinewydd

4

Maes Parcio Iard y Talbot

Tregaron

4

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Rydym yn hynod falch o ba mor bell rydym wedi dod wrth ddelio â’r broblem garbon sy’n ein hwynebu i gyd, a bydd y gwaith hwn yn parhau’n egnïol i sicrhau bod Ceredigion ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae hyn yn dangos ymrwymiad a’r pwysigrwydd y mae Ceredigion yn ei roi i'r agenda hon, a gobeithio yn gwneud y penderfyniad i newid i gerbydau trydan yn haws, nid yn unig ar gyfer trigolion Ceredigion, ond hefyd ar gyfer y rheiny sy’n ymweld â’n sir hardd.”

Mae cyllid ar gyfer trydydd cam o osodiadau mannau gwefru cerbydau trydan hefyd wedi cael ei sicrhau a bydd yn cael ei ddarparu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Gallwch ddarllen mwy am y cynlluniau i'w cyflwyno ymhellach yn ystod 2023-24 yn ein Strategaeth a'n Cynllun Gweithredu Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV).

27/09/2023