Yn dilyn achos o dân yng Ngwarchodfa Natur Penglais, gofynnodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) i Gyngor Sir Ceredigion roi gweithdrefnau yn eu lle i agor Canolfan Orffwys Dros Dro ar gyfer y rhai a ddadleolwyd gan y tân yng Ngwarchodfa Natur Penglais.
Cafodd nifer o bobl o eiddo cyfagos ar Heol yr Ysbyty, Aberystwyth eu symud a cynigwyd lle iddynt aros nes ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd i'w cartrefi. Gwnaeth y rhan fwyaf o'r rhai a gafodd eu symud eu trefniadau eu hunain, ond arhosodd nifer fach o unigolion yn y ganolfan orffwys nes eu bod yn gallu gwneud trefniadau amgen.
Am 915pm, hysbyswyd y Cyngor gan GTACGC y gallai'r ganolfan orffwys sefyll i lawr ac y gall preswylwyr ddychwelyd i'w heiddo.
Hoffem ddiolch i'r diffoddwyr tân a ymatebodd ac ymdrin â'r tân ac i staff yr Awdurdod Lleol am wirfoddolodd i ofalu am y Ganolfan orffwys dros dro.
09/06/2023